Canllawiau Brand
Mae’r canllawiau brand hyn wedi’u datblygu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol er mwyn rhoi arweiniad i’r darparwyr ar y defnydd cywir o’r brand.
Mae brand y Ganolfan wedi’i lunio gyda’r bwriad o rannu un brand unedig i hyrwyddo gweithgareddau Dysgu Cymraeg.
Ariennir gweithgaredd y Ganolfan a’r darparwyr drwy nawdd Llywodraeth Cymru. Mae’r Ganolfan yn rhannu gweledigaeth y brand CYMRAEG o sicrhau fod yr iaith Gymraeg yn ffynnu yn ein cymunedau ar gyfer cenedlaethau i ddod.
Bydd y canllawiau yn cael eu hadolygu yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn ateb gofynion y Ganolfan a’i darparwyr.
I agor y ddogfen, cliciwch ar y llun ar y dde neu os hoffech ragor o wybodaeth neu'r logos unigol ebostiwch swyddfa@dysgucymraeg.cymru