Dysgu Cymraeg Caerdydd
Shwmae! Croeso i dudalen Dysgu Cymraeg Caerdydd, Prifysgol Caerdydd. Rydym yn darparu pob math gyrsiau ar draws y brifddinas ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. O gyrsiau i ddechreuwyr pur i gyrsiau ar gyfer siaradwyr rhugl sydd eisiau gwella’u Cymraeg. Felly, beth amdani?

Cliciwch isod i bori drwy ein cyrsiau

Gweld cyrsiau
Cyrsiau Medi
Dod o hyd i gwrs

Cwrs Haf Prifysgol Caerdydd

Beth am ymuno â ni eleni ar Gwrs Haf Prifysgol Caerdydd? Mae'r holl wybodaeth am y cwrs isod. Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau, mae croeso mawr i chi gysylltu â ni. Noder, os taw Firefox yw eich porwr, i agor un o'r botymau isod, cliciwch ar fotwm ac agorwch y dudalen yn y botwm lawrlwytho sydd yng nghornel dde eich porwr (↓).

Gallwch hefyd gysylltu trwy lenwi'r ffurflen yma.