Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cyhoeddi Data 2017-18

Ystadegau Dysgu Cymraeg

Mae data'r rhaglen Dysgu Cymraeg yn cael eu rheoli gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae cronfa ddata ganolog yn casglu gwybodaeth gan bob dysgwr wrth iddynt gofrestru i fynychu cwrs. Mae’r wybodaeth hon yn cynnwys manylion am y dysgwr (e.e. enw, cyfeiriad, dyddiad geni) a’r cwrs (lefel, lleoliad, dwyster y dysgu).

Mae’r data sy'n cael eu casglu gan y Ganolfan yn wahanol i’r data a gasglwyd ar gyfer y sector yn y gorffennol. Mae’r dull o gasglu’r data hefyd yn wahanol. 

Cyhoeddi Data 2017-2018

Yn dilyn rhoi Cynllun Rheoli Data y Ganolfan ar waith, y flwyddyn lawn gyntaf o ddata sydd gan y Ganolfan i’w rhannu yw data ar gyfer y flwyddyn academaidd 2017-2018 (1 Awst 2017–31 Gorffennaf 2018).

Dyma grynodeb - cyhoeddir yr ystadegau yn llawn ar wefan Llywodraeth Cymru.   

Data 2017-2018

Niferoedd y dysgwyr unigryw

Mae 'niferoedd y dysgwyr unigryw' yn cyfrif pob dysgwr unwaith yn unig, faint bynnag o gyrsiau maent wedi eu dilyn yn ystod y flwyddyn. Yn 2017-2018 roedd cyfanswm o 12,680 o ddysgwyr unigryw. 

Dyma'r gwaelodlin cenedlaethol ar gyfer y sector. O fan cychwyn y trefniadau newydd hyn, bydd modd gwneud cymariaethau blwyddyn ar flwyddyn. 

Gweithgareddau dysgu

Gall dysgwyr fynychu mwy nag un gweithgaredd dysgu ar lefel neu ddwyster gwahanol yn ystod y flwyddyn. Er enghraifft, gall dysgwr unigol fynychu cwrs 170-259 awr ar lefel Mynediad yn ogystal â chwrs 'fesul awr' ar lefel Sylfaen yn ystod y cyfnod. Cyfrifir hyn fel dau weithgaredd dysgu.

Yn 2017-2018 cymerodd y dysgwyr ran mewn o 19,490 o weithgareddau dysgu.

Lefel y dysgu

Mae cyfleoedd dysgu o fewn y rhaglen Dysgu Cymraeg yn cael eu cynnig ar bump lefel

Yn 2017-2018 roedd 51% ar lefel Mynediad. Mynediad yw'r lefel gychwynnol i ddechreuwyr. Roedd 18% ar lefel Sylfaen a 31% ar lefelau Canolradd neu Uwch (gan gynnwys Hyfedredd).  

Lefel Dysgu

Dwyster y dysgu

Mae cyfleoedd dysgu o fewn y rhaglen dysgu Cymraeg yn cael eu cynnig ar bump lefel o ddwyster. Mae 'dwyster' yn cael ei ddiffinio yn ôl yr oriau cyswllt dan arweiniad tiwtor. Mae hyn yn rhoi hyblygrwydd i’r dysgwyr ddewis y cwrs mwyaf addas. 

Yn 2017-2018 darparodd 42% o'r cyfleoedd hyn ddysgu ar gyrsiau 50-79 awr.  

Un o amcanion strategol y Ganolfan yw cynnig mwy o gyfleoedd dysgu dwys, sy’n galluogi dysgwyr i ddysgu’r iaith yn gynt. Yn 2017-2018 darparodd 12% o'r cyfleoedd hyn ddysgu dros 110 awr.

 

- - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - 

Data'r dyfodol

O hyn ymlaen bydd y Ganolfan yn cyhoeddi data blynyddol ar gyfer y sector Dysgu Cymraeg. Bydd modd gwneud cymariaethau blwyddyn ar flwyddyn yn seiliedig ar y gwaelodlin newydd a gyhoeddir uchod.