Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Darparwyr lleol

Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn gweithio gydag 11 o ddarparwyr cyrsiau ledled Cymru. Cliciwch ar y dolenni isod i ddod o hyd i gwrs neu weithgareddau Dysgu Cymraeg yn eich ardal chi.

Mae Dysgu Cymraeg Caerdydd yn darparu cyrsiau yn y brifddinas.
Mae Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe yn darparu cyrsiau yn Abertawe, Port Talbot a Chastell Nedd.
Mae Dysgu Cymraeg Y Fro yn darparu cyrsiau ym Mro Morgannwg.
Mae Dysgu Cymraeg Morgannwg yn darparu cyrsiau yn Merthyr Tydfil, Rhondda Cynon Taf a Phen-y-Bont ar Ogwr.
Mae Dysgu Cymraeg Gwent yn darparu cyrsiau yng Nghaerffili, Torfaen, Blaenau Gwent, Casnewydd a Sir Fynwy.
Mae Dysgu Cymraeg Sir Benfro yn darparu cyrsiau yn Sir Benfro.
Mae Dysgu Cymraeg Sir Gâr yn darparu cyrsiau yn Sir Gaerfyrddin.
Mae Dysgu Cymraeg Ceredigion - Powys - Sir Gâr yn darparu cyrsiau yn y canolbarth a Sir Gaerfyrddin.
Mae Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin yn darparu cyrsiau yng Ngwynedd, Môn a Chonwy.
Mae Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain yn darparu cyrsiau yn Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Wrecsam.
Mae Dysgu Cymraeg Nant Gwrtheyrn yn darparu cyrsiau preswyl yn 'y Nant', canolfan arbennig ym Mhen Llŷn.