Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn
Mae Nant Gwrtheyrn yn darparu cyrsiau preswyl Cymraeg ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Dyma gyfle gwych i ddysgu Cymraeg gyda ni, naill ai yn ein canolfan ym Mhen Llŷn neu yng nghysur eich cartref eich hun. Mae cyrsiau Nant Gwrtheyrn yn gyrsiau atodol ac mae ffeiliau cwrs unigryw gyda ni. Mae’r cyrsiau hyn yn cefnogi'r cyrsiau cenedlaethol sy'n cael eu dysgu gan ddarparwyr prif ffrwd eraill ac maent yn gyfle gwych i ymarfer, adolygu a chynyddu hyder wrth siarad. Mae'n ddull effeithiol o gefnogi unrhyw weithgareddau dysgu eraill yr ydych yn eu gwneud. Mae dewis y cwrs cywir yn bwysig felly os nad ydych yn siwr o ba lefel i ddewis cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol. Bydd un o'n tiwtoriaid yn falch iawn o gynnig cyngor.

Nant Gwrtheyrn
Llithfaen
Pwllheli
Gwynedd
Cymru
LL53 6NL

01758 750 334

Ydych chi'n byw yng Ngwynedd neu ym Môn?

Cwrs 5 niwrnod am £166. Os ydych yn byw* yn lleol gallwch deithio i'r Nant bob dydd am bris gostyngedig. *Mae'r cynnig yma ar gyfer unigolion sydd â'u prif gartref yng Ngwynedd neu ym Môn. Cysylltwch i dderbyn y cod.

Profiad unigryw i bawb sy'n dysgu Cymraeg

Yma yn Nant Gwrtheyrn ein nod ydy rhoi'r profiad gorau bosibl i chi o ddysgu Cymraeg, a'r gefnogaeth i gyrraedd eich nod personol chi.

Sut le yw Nant Gwrtheyrn?

Cliciwch isod i bori drwy ein cyrsiau

Nant Gwrtheyrn

Cyrsiau Cymraeg Preswyl mewn lleoliad arbennig...

Profiad unigryw i bawb sy'n dysgu Cymraeg

Yma yn Nant Gwrtheyrn ein nod ydy rhoi'r profiad gorau bosibl i chi o ddysgu Cymraeg, a'r gefnogaeth i gyrraedd eich nod personol chi... 

0%
o ddysgwyr yn awyddus i ddychwelyd i'r Nant
0%
o ddysgwyr yn nodi bod ein dulliau dysgu yn Rhagorol neu Dda iawn

Y cwrs gorau i chi...

Rydym yn annog myfyrwyr i drafod eu hanghenion gyda thiwtor ymlaen llaw ac rydym yn anelu at gael pob myfyriwr ar y cwrs sydd fwyaf addas ar gyfer ei anghenion personol.

Os ydych chi'n ansicr o'ch lefel...

Awgrymwn eich bod yn cysylltu â thiwtor yn Nant Gwrtheyrn i drafod eich anghenion trwy ffonio 01758 750334. Ni fydd y tiwtor ar gael bob amser gan y bydd yn dysgu, ond bydd aelod o staff y Swyddfa yn cymryd eich manylion ac yn trefnu i'r tiwtor gysylltu â chi cyn gynted ag sy'n bosib.

Mae ein tiwtoriaid yn hapus bob amser i'ch helpu i ddewis y cwrs gorau ar gyfer eich anghenion chi.