Hanes yr iaith Gymraeg

Beth sy’n gyffredin i:

* Alex Jones, The One Show

* Huw Edwards, BBC

* Rhys Ifans, yr actor

* a Cerys Matthews?

Maen nhw i gyd yn siarad Cymraeg!

Mae 560,000 yn siarad Cymraeg - tua 21% o bobl Cymru.

Mae 65% o bobl Gwynedd yn siarad Cymraeg – ond mae hanner y bobl sy’n siarad Cymraeg yn byw o fewn 50 milltir i Abertawe.

Mae ysgolion Cymraeg wedi tyfu’n gryf ers i’r ysgol Gymraeg gyntaf agor yn Llanelli yn 1947. Mae tua 22% o blant ysgolion cynradd Cymru mewn ysgolion Cymraeg. Mae mwy a mwy o blant yn cael addysg Gymraeg yng Nghaerdydd, Caerffili, Abertawe, y Rhondda, Wrecsam a llawer o drefi a chymoedd eraill. Mae pob plentyn yng Ngwynedd yn cael addysg gynradd Gymraeg.

Mae llawer o oedolion yn dysgu’r iaith hefyd – mae tua 16,000 o bobl ar draws Cymru yn mynd i gyrsiau bob blwyddyn.

Hanes y Gymraeg

  • Mae’r Gymraeg yn un o ieithoedd hynaf Ewrop. Cyn y Gymraeg, Brythoneg oedd prif iaith Cymru, Lloegr a de’r Alban, pan ddaeth y Rhufeiniaid yn 43 AD.
  • Daeth y Gymraeg o’r Frythoneg, rywbryd rhwng 400 a 700 AD. Mae barddoniaeth Gymraeg gynnar yn dod o’r cyfnod hwn. 
  • Am fil o flynyddoedd, roedd y Gymraeg yn iaith i bawb. Roedd yn iaith bywyd bob dydd, ac yn iaith diwylliant a’r gyfraith.
  • Dyna sut oedd pethau, er bod yr Eingl-Normaniaid wedi concro tywysogion Cymru.
  • Ond erbyn yr 16ed ganrif, daeth Saesneg yn iaith y dosbarth rheoli, tra bod y rhan fwyaf o’r bobl yn dal i siarad Cymraeg yn unig.

Yn 1536, pan gafodd y Ddeddf Uno ei phasio, daeth Saesneg yn unig iaith y gyfraith.

Cafodd y Beibl ei gyfieithu i’r Gymraeg gan yr Esgob William Morgan yn 1588. Diolch i ysgolion teithiol y 18fed ganrif, ac i’r ysgol Sul yn y 18fed a’r 19fed ganrif, daeth pobl Cymru i ddarllen ac ysgrifennu Cymraeg. Doedd dim llawer o bobl yn Ewrop yn gallu darllen ac ysgrifennu eu hiaith yn y cyfnod hwn.

Daeth newid mawr i Gymru, gyda’r gweithfeydd haearn, glo a llechi. Daeth y Gymraeg yn brif iaith cymoedd glo y de a threfi glo y gogledd. Dyma pryd roedd llyfrau a phapurau Cymraeg yn gwerthu miloedd o gopïau, a phryd roedd capeli Cymraeg yn cael eu hadeiladu ym mhob cornel o’r wlad. Ond erbyn 1870 cafodd y Gymraeg ei chadw allan o’r system addysg.

Mae Cyfrifiad 1911 yn nodi’r nifer uchaf o siaradwyr Cymraeg - 977,366, 43.5% o bobl Cymru. Ond dyma hefyd y tro cyntaf mewn 1,500 o flynyddoedd i’r Gymraeg fod yn iaith llai na hanner y bobl.

Cafodd y Rhyfel Byd Cyntaf effaith fawr ar y Gymraeg hefyd. Cafodd 20,000 o filwyr Cymraeg eu lladd yn y rhyfel.

Erbyn Cyfrifiad 1921 roedd nifer y siaradwyr i lawr i 37.1% o’r boblogaeth.

Rhwng 1925 a 1939, roedd y pyllau glo yn cau ac aeth 390,000 o bobl allan o Gymru i chwilio am waith.  Wedyn daeth yr Ail Ryfel Byd. Er bod pethau ddim yn dda erbyn yr 1950au, dyna pryd cafodd llawer o ysgolion Cymraeg eu hagor.

Yn ei ddarlith radio enwog ar y BBC, Tynged yr Iaith, ym 1962, fe wnaeth Saunders Lewis ragweld bod yr iaith yn mynd i farw erbyn yr 21ain ganrif. Cafodd y ddarlith effaith fawr. Cafodd Cymdeithas yr Iaith ei ffurfio. Aeth y Gymdeithas ati i wneud y Gymraeg yn iaith swyddogol. Aeth llawer i’r carchar yn ystod yr ymgyrch.

Pasiwyd Deddf Iaith 1967 i roi’r hawl i bobl siarad Cymraeg yn Llysoedd Cymru. Roedd hawl hefyd i bobl gael ffurflenni swyddogol yn y Gymraeg.

Daeth BBC Radio Cymru i fod yn 1977. Wedyn daeth sianel deledu Gymraeg S4C yn 1982. Roedd y Gymraeg erbyn hyn yn iaith radio a theledu. Tyfodd yr Urdd, a gafodd ei sefydlu yn 1922, yn fudiad ieuenctid Cymraeg mawr. Roedd yr ysgolion Cymraeg yn dal i dyfu, trwy bwysau rhieni.

Pasiwyd Deddf Iaith Gymraeg arall yn 1993. Yn 2003 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun i gael gwlad ddwyieithog. Erbyn 2011 roedd niferoedd siaradwyr Cymraeg ifanc wedi dechrau codi. 

welsh woman history