Yn y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, rydym yn cydnabod pwysigrwydd a gwerth cefnogi ieithoedd lleiafrifol eraill, ac yn mynd ati i gefnogi’r rhai sydd â chysylltiadau Celtaidd yn arbennig.
Mae Llydaweg yn perthyn i’r teulu ieithyddol Celtaidd sy’n cael ei siarad yn Llydaw, sef rhanbarth yn Ffrainc fodern. Cafodd y Llydaweg ei chyflwyno i Armorica (yr enw hynafol ar y rhanbarth arfordirol sy'n cynnwys penrhyn Llydaw) gan ymfudwyr o Brydain yn ystod yr Oesoedd Canol cynnar, gan ei gwneud hi’n iaith Geltaidd Ynysig. Mae Llydaweg yn perthyn yn agos iawn i’r Gernyweg, sef iaith Frythoneg arall o’r de-orllewin. Mae Llydaweg yn perthyn yn agos i’r Gymraeg hefyd.
Mae tua 200,000 o siaradwyr Llydaweg.
Rydym wedi ffurfio partneriaeth gyda'n cefndryd Celtaidd i gynnig y cwrs rhagarweiniol ar-lein hwn, sydd ar gael yn rhad ac am ddim er mwyn helpu i hyrwyddo ymwybyddiaeth iaith ac annog pobl i ddefnyddio’r Llydaweg. Os ydych chi'n siarad neu'n deall Cymraeg, Ffrangeg, Cernyweg neu unrhyw iaith Geltaidd arall, byddai’n ddiddorol dros ben i chi ddysgu Llydaweg a gweld sut mae’r iaith wedi cael ei llunio.