Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cymraeg yn y Cartref

Cefnogi rhieni a gofalwyr
Cyrsiau Dysgu Cymraeg

Mae cyrsiau Dysgu Cymraeg ar gael ar wahanol lefelau dysgu, yn ystod y dydd a gyda'r hwyr.

Dych chi'n gallu dysgu wyneb yn wyneb, neu mewn dosbarth rhithiol.

Mae cyrsiau 'Cymraeg yn y Cartref' hefyd ar gael.  Mae'r cyrsiau yma, ar gyfer dechreuwyr, wedi'u teilwra ar gyfer rhieni a gofalwyr plant ifanc.

Clwb Cwtsh

Partneriaeth rhwng y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Mudiad Meithrin yw'r 'Clwb Cwtsh'.

Mae sesiynau hwyliog, ysgafn y Clwb Cwtsh ar gael yn rhad ac am ddim.

Byddwch yn dysgu geiriau ac ymadroddion i'w defnyddio gyda'ch plant ifanc, gan ddefnyddio canu a gemau.

 

 

Ysgolion Cymraeg

Eisiau dysgu mwy am addysg cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog?  Beth am ddefnyddio ein adnodd ar-lein rhad ac am ddim. 

Mae tair rhan i'r adnodd:

• Cyflwyniad i addysg cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog.

• Geirfa ac ymadroddion defnyddiol.

• Syniadau ac awgrymiadau i helpu.