Beth yw Cymraeg Gwaith?
Nod Cymraeg Gwaith yw cryfhau sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae'r cynllun yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, ac fe'i datblygwyd gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mae Cymraeg Gwaith yn cynnig hyfforddiant addas, hyblyg, sydd wedi ei ariannu'n llwyr.

Mae Cymraeg Gwaith yn cynnig opsiynau ar gyfer dysgu, gwella, a defnyddio sgiliau Cymraeg at bwrpas gwaith ac yn cynnig cymorth a chefnogaeth i gyflogeion ynghyd â'u cyflogwyr.
Mae pandemig COVID-19 wedi newid ein byd. Roedd datblygu adnoddau Dysgu Cymraeg digidol yn barod yn flaenoriaeth i Cymraeg Gwaith, ac mae’r gwaith hwnnw wedi prysuro dros y misoedd diwethaf.
’Dyn ni wedi addasu ein gwasanaethau er mwyn rhoi’r cyfleoedd gorau posibl i gyflogwyr a’u gweithleoedd ddysgu a mwynhau’r Gymraeg. Cliciwch yma ddysgu mwy am y pecynnau Cymraeg Gwaith sydd ar gael yn 2020.