Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Camau

Cynllun camau

"Gan fod cynyddu darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg yn y blynyddoedd cynnar yn allweddol i’n nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr, mae angen sicrhau cynllun cydlynus ar gyfer datblygu’r gweithlu hollbwysig hwn."

Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr

Cwrs Dysgu Cymraeg Camau Lefel Mynediad

Rydym yn cynnig cwrs Hunan-Astudio Ar-lein ar lefel Mynediad (addas i ddechreuwyr, a rhai sydd wedi cwblhau Cyrsiau Blasu). Mae'r cwrs yn cynnwys yr isod ac wedi'i ariannu'n llwyr:

  • Tua 60 awr o ddysgu annibynnol;
  • Dysgu Cymraeg i'w ddefnyddio gyda'r plant;
  • Ynganu'r Wyddor, lliwiau, dyddiau'r wythnos a rhifo;
  • Dysgu gorchmynion a chyflwyno arddodiad.
  • Dysgu patrymau i ofyn ac ateb cwestiynau;
  • Dysgu'r amser;
  • siarad amdanoch chi'ch hun;
  • Siarad am gynlluniau yn y dyfodol;
  • Dweud beth mae pobl wedi/ yn ei wneud;
  • Dysgu gorchmynion a chyflwyno arddodiad.
Sgiliau Newydd

Am restr llawn o’r sgiliau newydd y byddwch yn ei ddysgu ar y cwrs, cliciwch yma.

Disgwylir i bob dysgwr gyflawni tua un Uned yr wythnos. Dylai'r cwrs gymryd tua 30 wythnos i'w gwblhau. Bydd cefnogaeth ar gael i bob dysgwr gan eich sefydliad. 

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â camau@dysgucymraeg.cymru  neu cliciwch yma er mwyn cysylltu gyda Cwlwm. 

Camau Logo