Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cwestiynau ac Atebion - Cwrs ar-lein

Rydw i wedi cwblhau y ffurflen gofrestru ar gyfer y cwrs ar lein. Sut mae staff y sefydliad yn cofrestru ar y cwrs?

Pan fyddwn ni yn derbyn eich ffurflen gofrestru, rydym yn nodi enw eich sefydliad ar y system. Bydd dolen a chyfarwyddiadau i ymuno â’r cwrs yn cael eu hanfon atoch yn syth. Chi fydd yn gyfrifol am ddosbarthu’r manylion yma yn fewnol i’ch staff.

Oes angen i ni gael nifer terfynol o staff sydd eisiau gwneud y cwrs ar lein cyn i ni gwblhau y ffurflen gofrestru?  

Nid yw hyn yn hanfodol, ond byddai’n rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i ni.

Rydym wedi cofrestru fel cyflogwr: sut allwn ni weld beth yw cynnydd y staff?

Gallwn ddarparu gwybodaeth am y nifer y staff sydd wedi cofrestru a’u cynnydd. Anfonwch e bost at cymraeggwaith@dysgucymraeg.cymru a gallwn gasglu’r wybodaeth yma i chi.

Bydd yr enw cyswllt sy’n gysylltiedig â’r ffurflen gofrestru hefyd yn derbyn e-bost pan fydd aelod o staff wedi cwblhau’r cwrs.  

Pa fersiwn o Internet Explorer sydd ei angen arna'i i gefnogi'r cwrs ar lein yn llawn?

Byddwch angen Internet Explorer (IE) 10 neu uwch i gefnogi’r modiwlau a’r gweithgareddau. Gallwch lawrlwytho’r fersiwn diweddaraf o IE am ddim i’ch cyfrifiadur/ gliniadur yma.

Nid yw rhai o’r gweithagerddau yn gweithio’n iawn yn y modiwlau. Beth yw’r rheswm am hyn?

Mae angen i chi sicrhau eich bod yn defnyddio y fersiwn diweddarafaf yn eich porwr er mwyn cefnogi’r gweithgareddau yma.

Mae ein hadnoddau yn gweithio ar y rhan fwyaf o’r porwyr, e.e Google Chrome, Mozilla Firefox a Safari. Os ydych yn defnyddio Internet Explorer (IE), gwenwch yn siwr eich bod yn defnyddio fersiwn 10 neu uwch. Os byddwch yn defnyddio fersiwn llai na hyn, gall y modiwlau ymddangos yn wallus.  

Gallwch larwlwytho y fersiwn diweddaraf o IE I’ch cyfrifiadur/ gliniadur yma.

Dw i wedi anghofio fy nghyfrinair

Os ydych chi wedi anghofio eich cyfrinair, cliciwch ar y botwm ‘Forgotten password’ yn y dudalen mewngofnodi, ac yna dilynwch y cyfarwyddiadau. Cliciwch ar y botwm gwyrdd ‘Mewngofnodi’ sydd wedi’i leoli ar frig y sgrin i ddod o hyd i’r linc ‘Forgotten Password’.

 

Problem creu cyfrif

Mae angen i chi sicrhau bod eich cyferiad e-bost yn ddilys, a'ch bod wedi awdurdodi yr e-bost.

Ydy’r cwrs yn cadw a chofio pa unedau yr ydw i wedi eu cwblhau?

Ydy, gallwch weld eich cynnydd a chychwyn y cwrs ar lein ble roeddech chi ddiwethaf.

Nid yw’r cyfleusterau sain yn gweithio, neu does gen i ddim cyfleusterau sain ar fy nghyfrifiadur.

Os nad oes gennych chi seinydd (speaker) ar eich cyfrifiadur, gallwch ddilyn y cwrs ar ffonau clyfar neu dabled. Cofiwch roi eich clustffonau ymlaen.

Os oes gennych gyfleusterau sain, gwiriwch osodiadau eich cyfrifiadur, a cheisio eto.   

Nid yw’r botwm  "back to the Menu" yn gweithio

Os nad yw’r botwm yn gweithio, ceisiwch pwyso ‘X’ ar y ffenestr i gau’r weithgaredd.

Dw i wedi cwblhau y cwrs 10 awr ond heb dderbyn y pecyn llongyfarch a thystysgrif

 

Mi ddylai hwn eich cyrraedd ar e-bost. Gwiriwch yr holl ffeiliau sydd gennych yn eich blwch derbyn, gan gynnwys y sothach a’r Spam. Os ydych yn defnyddio  cyfrif e-bost 'hotmail.com, live.com, Outlook' mae angen i chi edrych ar eich blwch derbyn â ffocws ac ‘arall’.