Cyrsiau Dwys 'Dysgu' Cymraeg Gwaith
*Nid yw’r cyrsiau hyn yn cael eu cynnal ar hyn o bryd. Gallwch ymarfer eich Cymraeg yn y cartref trwy ddefnyddio dros 1,500 o adnoddau digidol rhad ac am ddim. Mae adnoddau wedi’u teilwra ar gyfer gwahanol lefelau dysgu. Mae mwy o wybodaeth yma am ffyrdd eraill o ymarfer eich Cymraeg.*
Dilyn cyrsiau dwys dros gyfnod estynedig yw’r ffordd orau i wneud cynnydd cyflym wrth ddysgu Cymraeg. Gallwn ddarparu cyrsiau dwys ar unrhyw lefel ac wedi'u teilwra i ofynion cyflogwyr.
Caiff y cyrsiau eu darparu yn lleol i’r gweithle gan un o ddarparwyr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Bydd isafswm o 8 ac uchafswm o 15 person ym mhob dosbarth ar yr un lefel. Bydd y cyrsiau yn cynnwys terminoleg sy’n berthnasol i’r gweithle ac yn galluogi dysgwyr i ddysgu Cymraeg sy’n addas ar gyfer cyd-destun gwaith.
Cliciwch ar y fideos i ddarganfod mwy am brofiadau cyflogwyr a dysgwyr sydd wedi manteisio ar gyrsiau dwys Dysgu Cymraeg Gwaith.
I drafod y cyrsiau dwys ymhellach, ebostiwch cymraeggwaith@dysgucymraeg.cymru.