Fframwaith Cytundeb Hyfforddiant Iaith Gymraeg
Fframwaith Cytundeb Hyfforddiant Iaith Gymraeg
Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi sefydlu Fframwaith Hyfforddiant Iaith Gymraeg ar gyfer sefydliadau sydd yn dymuno pwrcasu hyfforddiant Cymraeg. Gall y sefydliadau hyn gynnwys:
- Llywodraeth Cymru
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Awdurdodau Lleol
- Sector Gyhoeddus
- Trydydd Sector
- Gwasanaethau Brys
- Addysg Bellach ac Addysg Uwch
- Cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru
- Sector breifat (SME)
Y rhaglen o gyrsiau sydd ar gael trwy’r Fframwaith:
- Cwrs lefel Mynediad
- Cwrs lefel Sylfaen
- Cwrs lefel Canolradd
- Cwrs lefel Uwch
- Cwrs lefel Hyfedredd
- Tiwtor un-i-un
- Dysgu cyfunol (rhan yn y dosbarth a rhan ar-lein)
- Cyrsiau Preswyl tri neu bum niwrnod
- Cyrsiau ar-lein
- Hyfforddiant am y Gymraeg
Cyfrifoldeb y cyflogwr
- Bydd cost i’r cyflogwr ynghlwm â chynnal y cyrsiau ar y Fframwaith hwn.
- Y cyflogwr fydd yn gyfrifol am gwblhau'r broses ‘cystadleuaeth bellach’ i ddarganfod darparwr hyfforddiant;
- Y cyflogwr fydd yn gyfrifol am nodi anghenion y cwrs yn unol â lefel, oriau, amserlen, anghenion dysgu. Mae modd derbyn cymorth gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol;
- Y cyflogwr fydd yn gyfrifol am nodi gwybodaeth am strwythur y sefydliad, eu cwsmeriaid, strwythur rheoli a gweithredu, a diwylliant a swyddi.
Darparwyr sydd ar y Fframwaith Cytundeb Hyfforddiant Iaith Gymraeg
Dewiswyd y darparwyr isod yn dilyn proses gystadleuol, agored trwy Gwerthwch i Gymru yn mis Ebrill 2017. Cyfrifoldeb y darparwr hyfforddiant yw cynnig gwasanaeth hollol gynhwysol, ansawdd dysgu o safon uchel gyda thiwtoriaid cymwysedig. Disgwylir i’r darparwr gynnal asesiad cychwynnol gan sicrhau bod amrywiadau rhesymol ble mae gan ddysgwyr anghenion ychwanegol.
Cyfnod
Cyfnod y Cytundeb Fframwaith fydd tair blynedd gyda’r posibilrwydd am estyniad o ddwy flynedd.
Cystadleuaeth Bellach
Y cyflogwyr fydd yn gyfrifol am gomisiynu’r hyfforddiant iaith Gymraeg, trwy broses ‘gystadleuaeth bellach’. Gall y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol gyflenwi templed.
Wrth fynd trwy’r broses cystadleuaeth bellach disgwylir i’r cyflogwyr ofyn i ddarparwyr ddarparu costau ar gyfer y cwrs/cyrsiau y gofynnir amdano, gan gynnwys costau lleoliad, costau rheoli a gweinyddu’r cwrs, cyflogi tiwtoriaid ac adnoddau dysgu.
Rhestr o’r darparwyr
Darparwr | Sefydliad | Enw Cyswllt | Cyswllt e-bost | Rhif Ffon |
Rhanbarth Gogledd Cymru (Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Fflint, Dinbych, Wrecsam) | ||||
Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin | Prifysgol Bangor | Ifor Gruffydd | i.gruffydd@bangor.ac.uk | 01248 382929 |
Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain | Coleg Cambria | Llinos Roberts | llinos.roberts@cambria.ac.uk | 01978 267927 |
Rhanbarth Canolbarth Cymru (Powys, Ceredigion, Sir Gâr, Sir Benfro, Abertawe, Castell Nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr) | ||||
Dysgu Cymraeg Ceredigion, Powys a Sir Gâr | Prifysgol Aberystwyth | Sion Meredith | stm@aber.ac.uk | 01970 628599 |
Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe | Academi Hywel Teifi - Prifysgol Abertawe | Iestyn Llwyd | i.llwyd@abertawe.ac.uk | 01792 604308 |
Dysgu Cymraeg Sir Benfro | Cyngor Sir Benfro | Mairwen Jones | mairwenjones@sky.com | 01348 875494 |
Dysgu Cymraeg Sir Gâr | Cyngor Sir Gâr | Siân Merlys | smerlys@sirgar.gov.uk | 01267 246861 |
Ymgynghoriaith | Ymgynghoriaith | Dr Rachel Heath Davies | rachel@ymgynghoriaith.cymru | 029 2236 2106 |
Rhanbarth De Cymru (Caerdydd, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tydfil, Casnewydd, Sir Fynwy, Blaenau Gwent, Torfaen, Caerffili) | ||||
Dysgu Cymraeg Morgannwg | Prifysgol De Cymru | Annalie Price | annalie.price@decymru.ac.uk | 01443 483600 |
Dysgu Cymraeg Y Fro | Cyngor Bro Morgannwg | Mared Furnham | mnfurnham@valeofglamorgan.gov.uk | 01446 733762 |
Dysgu Cymraeg Caerdydd | Prifysgol Caerdydd | Lowri Bunford-Jones | Bunford-JonesL1@cardiff.ac.uk | 029 20879226 |
Dysgu Cymraeg Gwent | Coleg Gwent | Geraint Wilson Price | geraint.wilsonprice@coleggwent.ac.uk | 01495 333710 |
Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe | Academi Hywel Teifi - Prifysgol Abertawe | Iestyn Llwyd | i.llwyd@abertawe.ac.uk | 01792 604308 |
Ymgynghoriaith | Ymgynghoriaith | Dr Rachel Heath Davies | rachel@ymgynghoriaith.cymru | 029 2236 2106 |
Arall | ||||
Nant Gwrtheyrn | Nant Gwrtheyrn | Mair Saunders | mair@nantgwrtheyrn.org | 01758 750908 |
IAITH: y ganolfan cynllunio iaith | IAITH: y ganolfan cynllunio iaith | Siwan Tomos | siwan.tomos@iaith.eu | 01745 222052 |