Mae cyrsiau newydd ar gyfer dechreuwyr - cyrsiau lefel Mynediad - yn dechrau ym mis Ionawr.
Mae cyrsiau ar gael mewn dosbarthiadau rhithiol neu wyneb-yn-wyneb, yn ystod y dydd neu’r nos.
Gallwch ddod o hyd i gwrs trwy'r ddolen yma.
Gall dysgwyr ddilyn cwrs Mynediad Rhan 1 mewn blwyddyn, neu gwrs Mynediad Rhan 1 a 2 mewn blwyddyn. Mae cyrsiau dwy lefel, Mynediad a Sylfaen, hefyd ar gael, i bobl sy eisiau dysgu’n gynt.
Os dych chi’n siarad Cymraeg yn barod ac eisiau cryfhau eich sgiliau, mae cyrsiau ar lefelau dysgu eraill hefyd ar gael.