Cyrsiau newydd i ddechreuwyr
Mae cyrsiau lefel 'Mynediad' newydd ar gyfer dechreuwyr yn dechrau ym mis Medi.
Gall dysgwyr ddilyn Mynediad Rhan 1, neu Mynediad Rhan 1 a 2, os ’dyn nhw eisiau dysgu’n gynt.
Mae cyrsiau ar gael mewn dosbarthiadau wyneb yn wyneb ac yn rhithiol, yn ystod y dydd a’r nos.
Os dych chi’n siarad Cymraeg yn barod ac eisiau cryfhau eich sgiliau, mae cyrsiau ar lefelau dysgu eraill hefyd ar gael.