Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn
1 Wythnos
Cychwyn: 16/01/2023
Gorffen: 20/01/2023
Dydd Llun - Dydd Gwener
10:00 - 16:00

Cwrs Mynediad Rhan 2

Cyfeirnod: C2322 Dosbarth rhithiol
Mynediad

CWRS WYTHNOS - MYNEDIAD RHAN

2 Parhad o’r cwrs ar gyfer dechreuwyr. Mae’r pwyslais ar siarad yr iaith. Cwrs wedi ei gynnal dros Zoom.

Ar y cwrs rhithiol hwn, bydd yr elfennau hyn yn cael eu trafod:

•adolygu patrymau’r amser presennol •dysgu’r amser perffaith: wedi •meddiant, e.e. fy nghar i, dy gar di, ei gar o/e, ei char hi •creu brawddegau yn y gorffennol syml, e.e. ‘Es i i Bwllheli ddoe’ •gofyn ac ateb cwestiwn yn y gorffennol syml •mynegi eisiau neu angen •ie / nage •dysgu enwau rhannau’r corff •ehangu geirfa ac ymadroddion defnyddiol

Dysgir y cwrs hwn drwy gyfrwng y Saesneg.

Mae cyrsiau Nant Gwrtheyrn yn gyrsiau atodol sydd â’u ffeiliau cwrs eu hunain. Mae’r cyrsiau hyn yn ategu’r cynnwys a ddysgir ar gyrsiau’r lefelau cenedlaethol a gynigir gan ddarparwyr prif ffrwd eraill, sy’n eu gwneud yn ddull effeithiol o gefnogi unrhyw weithgareddau dysgu eraill a wneir gan ddysgwyr o bob lefel.

Yn ansicr ynghylch eich lefel neu eisiau gwybod mwy am addasrwydd ein cyrsiau i chi? Cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol: addysg@nantgwrtheyrn.org

(RHITHIOL)