Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn
1 Wythnos
Cychwyn: 13/02/2023
Gorffen: 15/02/2023
Dydd Llun - Dydd Mercher
09:30 - 17:00

Cwrs Blasu

Cyfeirnod: C2327 Preswyl
Blasu

CWRS BLASU TRI DIWRNOD

Yn cynnwys gwersi a llety lluniaeth llawn.

Dewch i gael blas ar y Gymraeg mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar.

Ar y cwrs hwn, bydd yr elfennau hyn yn cael eu trafod:

• ynganu defnyddio enwau lleoedd ac arwyddion • cyfarchion • rhifo syml a lliwiau • dyddiau’r wythnos • siarad am y tywydd • ymadroddion bob dydd • berfau a gofyn/ateb cwestiynau syml

Addas ar gyfer pobl heb unrhyw wybodaeth flaenorol o’r Gymraeg. Cwrs delfrydol i baratoi ar gyfer mynd ar gwrs Mynediad 1. Dysgir y cwrs hwn drwy gyfrwng y Saesneg.

Mae cyrsiau Nant Gwrtheyrn yn gyrsiau atodol sydd â’u ffeiliau cwrs eu hunain. Mae’r cyrsiau hyn yn ategu’r cynnwys a ddysgir ar gyrsiau’r lefelau cenedlaethol a gynigir gan ddarparwyr prif ffrwd eraill, sy’n eu gwneud yn ddull effeithiol o gefnogi unrhyw weithgareddau dysgu eraill a wneir gan ddysgwyr o bob lefel.

Yn ansicr ynghylch eich lefel neu eisiau gwybod mwy am addasrwydd ein cyrsiau i chi? Cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol: addysg@nantgwrtheyrn.org

YN BYW YNG NGWYNEDD NEU MÔN? Cymerwch fantais o’n cynnig arbennig ar gyfer trigolion Gwynedd a Môn! Archebwch unrhyw gwrs 3 diwrnod (telerau dyddiol) am £85. Cysylltwch â ni i archebu.

Eisiau archebu nosweithiau llety ychwanegol? E-bostiwch: llety@nantgwrtheyrn.org ar ôl cofrestru.

(PRESWYL)