Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn
triangle vector pattern triangle vector pattern

Cwrs Uwch 2 - Rhan i a ii

Uwch 2 i a ii (Advanced 2 i and ii)
Preswyl
18: Preswyl
Cyfeirnod y Cwrs: C2342
Hyd: 1 Wythnos
Cychwyn: 19/06/2023
Gorffen: 23/06/2023
Amser + Diwrnod: 09:30 - 17:00 Dydd Llun - Dydd Gwener
Tafodiaith: D/B
Ffrwd dysgu: Prif Ffrwd
Darparwr: Dysgu Cymraeg Nant Gwrtheyrn
Lleoliad: Nant Gwrtheyrn, Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6NL
£545.00
Llefydd ar ôl: 0
Dyddiad cau ar gyfer ymrestru: 19/05/2023

Ynglŷn â'r cwrs

CWRS WYTHNOS - UWCH II RHAN 1 a 2

FFUGLEN GYFOES - GYDA BETHAN GWANAS

Yn cynnwys gwersi a llety lluniaeth llawn.

Dyma gyfle i ymarfer trafod pynciau a themâu o bob math. Byddwch hefyd yn datblygu eich sgiliau darllen, ysgrifennu a gwrando.

Cwrs sy’n rhoi cyfle i’r myfyrwyr astudio diwylliant y Cymry drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae pob cwrs Uwch 2 yn addas ar gyfer dysgwyr Cymraeg (lefel Uwch) neu Gymry Cymraeg sydd eisiau dysgu mwy am eu hanes a’u diwylliant Cymreig.

Mae cyrsiau Nant Gwrtheyrn yn gyrsiau atodol sydd â’u ffeiliau cwrs eu hunain. Mae’r cyrsiau hyn yn ategu’r cynnwys a ddysgir ar gyrsiau’r lefelau cenedlaethol a gynigir gan ddarparwyr prif ffrwd eraill, sy’n eu gwneud yn ddull effeithiol o gefnogi unrhyw weithgareddau dysgu eraill a wneir gan ddysgwyr o bob lefel.

Yn ansicr ynghylch eich lefel neu eisiau gwybod mwy am addasrwydd ein cyrsiau i chi? Cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol: addysg@nantgwrtheyrn.org

YN BYW YNG NGWYNEDD NEU MÔN? Cymerwch fantais o’n cynnig arbennig ar gyfer trigolion Gwynedd a Môn! Archebwch unrhyw gwrs 5 niwrnod (telerau dyddiol) am £140. Cysylltwch â ni i archebu.

Eisiau archebu nosweithiau llety ychwanegol? E-bostiwch: llety@nantgwrtheyrn.org ar ôl cofrestru.

(PRESWYL)