Cwrs Mynediad Rhan 2
Ynglŷn â'r cwrs
CWRS WYTHNOS - MYNEDIAD RHAN 2
Parhad o’r cwrs ar gyfer dechreuwyr. Mae’r pwyslais ar siarad yr iaith. Cwrs wedi ei gynnal dros Zoom.
Ar y cwrs rhithiol hwn, bydd yr elfennau hyn yn cael eu trafod:
•adolygu patrymau’r amser presennol •dysgu’r amser perffaith: wedi •meddiant, e.e. fy nghar i, dy gar di, ei gar o/e, ei char hi •creu brawddegau yn y gorffennol syml, e.e. ‘Es i i Bwllheli ddoe’ •gofyn ac ateb cwestiwn yn y gorffennol syml •mynegi eisiau neu angen •ie / nage •dysgu enwau rhannau’r corff •ehangu geirfa ac ymadroddion defnyddiol
Dysgir y cwrs hwn drwy gyfrwng y Saesneg.
Mae cyrsiau Nant Gwrtheyrn yn gyrsiau atodol sydd â’u ffeiliau cwrs eu hunain. Mae’r cyrsiau hyn yn ategu’r cynnwys a ddysgir ar gyrsiau’r lefelau cenedlaethol a gynigir gan ddarparwyr prif ffrwd eraill, sy’n eu gwneud yn ddull effeithiol o gefnogi unrhyw weithgareddau dysgu eraill a wneir gan ddysgwyr o bob lefel.
Yn ansicr ynghylch eich lefel neu eisiau gwybod mwy am addasrwydd ein cyrsiau i chi? Cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol: addysg@nantgwrtheyrn.org
(RHITHIOL)