Cwrs Sylfaen Rhan 1 a 2
Mae’r Cwrs Brys yn eich galluogi chi i gwblhau lefel mewn cyfnod byr yn ystod yr Haf. Mae’r cwrs yn berffaith os ydych chi eisiau cyflymu’r broses ddysgu neu adolygu lefel yn ystod yr haf.
Bydd 2 sesiwn 2 awr y dydd (10am-12pm a 2pm-4pm) am 3 wythnos. Bydd y cwrs yn un ar-lein, a byddwn yn defnyddio Microsoft Teams.
Y cwrs cyfan sy’n adeiladau ar lefel Mynediad yw Sylfaen 1 a 2. Mae’n gofyn am rywfaint o brofiad o’r Gymraeg. Bydd y prif bwyslais ar siarad yr iaith, gyda chyfle i drafod ystod eang o bynciau. Byddwch chi’n defnyddio llyfr cwrs “Dysgu Cymraeg Sylfaen/Foudnation (A2) – De Cymru” a fydd ar gael i’w brynu ar www.gwales.com neu o’ch siop lyfrau Cymraeg lleol.
Eich cwrs Cymraeg am hanner y pris!
Defnyddiwch y cod canlynol i gael 50% oddi ar ffi eich cwrs (dim ond yn gymwys ar gyfer Cyrsiau Brys yr Haf sy’n dechrau ym mis Gorffennaf a Awst 2021).
Defnyddiwch y cod yma: 072021
Os ydych eisiau manteisio ar y gostyngiad yma, bydd rhaid i chi dalu ffi’r cwrs yn llawn erbyn 30 Mehefin 2021. Noder, os na fydd ffi’r cwrs wedi cael ei dalu yn llawn erbyn y dyddiad hwn, bydd dim modd hawlio’r gostyngiad. Ni all Dysgu Cymraeg Morgannwg roi ad-daliadau na rhoi cod gostyngiad ar waith os nad yw’r dysgwr yn defnyddio’r cod wrth gofrestru.