Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn
30 Wythnos
Cychwyn: 24/09/2019
Gorffen: 02/06/2020
Dydd Mawrth
19:00 - 21:00
Lleoliad
Eglwys Y Drindod, Rhodfa Pendre, Prestatyn, Sir Ddinbych, LL19 9SH

Cwrs Sylfaen Rhan 1

Sylfaen

(Rhan 1) Dyma gwrs sy’n adeiladu ar lefel Mynediad ac sy’n gofyn am rywfaint o brofiad o’r Gymraeg. Bydd y prif bwyslais ar siarad yr iaith, gyda chyfle i drafod pynciau pob dydd fel y teulu a ffrindiau, gwaith a diddordebau.

GOSTYNGIADAU A RHIF CÔD Y GOSTYNGIADAU:

Dychwelwyr 20% i ffwrdd - Côd DYCH19 Dysgwyr sy'n dychwelyd i ddysgu am yr ail flwyddyn +.  Os oes bwlch o fwy na blwyddyn yn y dysgu yna nid yw'r dysgwr yn gymwys.

Pensiynwyr yn derbyn credyd pensiwn 40% - Côd PEN19 Dogfennau i'w dangos yn y wers gyntaf.

Myfyrwyr yn astudio cwrs hyfforddiant gyda choleg neu brifysgol 40% - Côd MYF19 Cerdyn NUS neu gerdyn adnabod y coleg/brifysgol i'w dangos yn y wers gyntaf.

Budd-daliadau 40% - Côd BUDD19 Credyd Cynhwysol, Credydau Treth, Lwfans Ceisio Gwaith, Lwfans Gofalwr a Lwfans Byw i’r Anabl.  Dogfennau i'w dangos yn y wers gyntaf.

Ymrestru cynnar 20% - Côd CYNNAR19 - Cyn 31 Awst 2019.

PWYSIG: Ni ellir defnyddio mwy nag un cod disgownt.  Os ydych yn gymwys ar gyfer mwy nag un o'r codau disgownt uchod, defnyddiwch yr un sydd yn cynnig y disgownt uchaf.