Cwrs Blasu
Ynglŷn â'r cwrs
CWRS BLASU TRI DIWRNOD
Dewch i gael blas ar y Gymraeg mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar. Cwrs wedi ei gynnal dros Zoom.
Ar y cwrs rhithiol hwn, bydd yr elfennau hyn yn cael eu trafod:
• ynganu defnyddio enwau lleoedd ac arwyddion
• cyfarchion
• rhifo syml a lliwiau
• dyddiau’r wythnos
• siarad am y tywydd
• ymadroddion bob dydd
• berfau a gofyn/ateb cwestiynau syml
Addas ar gyfer pobl heb unrhyw wybodaeth flaenorol o’r Gymraeg. Cwrs delfrydol i baratoi ar gyfer mynd ar gwrs Mynediad 1. Dysgir y cwrs hwn drwy gyfrwng y Saesneg.
Mae cyrsiau Nant Gwrtheyrn yn gyrsiau atodol sydd â’u ffeiliau cwrs eu hunain. Mae’r cyrsiau hyn yn ategu’r cynnwys a ddysgir ar gyrsiau’r lefelau cenedlaethol a gynigir gan ddarparwyr prif ffrwd eraill, sy’n eu gwneud yn ddull effeithiol o gefnogi unrhyw weithgareddau dysgu eraill a wneir gan ddysgwyr o bob lefel. Yn ansicr ynghylch eich lefel neu eisiau gwybod mwy am addasrwydd ein cyrsiau i chi? Cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol: addysg@nantgwrtheyrn.org
(RHITHIOL)