Cwrs Sylfaen Rhan 1 a 2
Ynglŷn â'r cwrs
CWRS WYTHNOS - SYLFAEN RHAN 1 a 2
Dyma gwrs sy’n adeiladu ar lefel Mynediad ac sy’n gofyn am rywfaint o brofiad o’r Gymraeg. Bydd y prif bwyslais ar siarad yr iaith, gyda chyfle i drafod pynciau pob dydd fel y teulu a ffrindiau, gwaith a diddordebau. Cwrs wedi ei gynnal dros Zoom.
Ar y cwrs rhithiol hwn, bydd yr elfennau hyn yn cael eu trafod:
•adolygu’r amser gorffennol cryno
•sôn am ddigwyddiadau olynol: cyn i mi…, ar ôl i mi…
•dysgu yr amser amherffaith: roeddwn i
•dyddiadau
•defnyddio arddodiaid gyda berfau
•datblygu rhagenwau, e.e. dw i wedi ei ddarllen o/e; dw i eisiau ei gweld hi
•ehangu geirfa ac ymadroddion defnyddiol
Er y bydd y cwrs hwn yn cael ei ddysgu drwy gyfrwng y Saesneg ar y dechrau, yn raddol bydd y Gymraeg yn cymryd ei lle fel y brif iaith gyfathrebu.
Mae cyrsiau Nant Gwrtheyrn yn gyrsiau atodol sydd â’u ffeiliau cwrs eu hunain. Mae’r cyrsiau hyn yn ategu’r cynnwys a ddysgir ar gyrsiau’r lefelau cenedlaethol a gynigir gan ddarparwyr prif ffrwd eraill, sy’n eu gwneud yn ddull effeithiol o gefnogi unrhyw weithgareddau dysgu eraill a wneir gan ddysgwyr o bob lefel. Yn ansicr ynghylch eich lefel neu eisiau gwybod mwy am addasrwydd ein cyrsiau i chi? Cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol: addysg@nantgwrtheyrn.org
(RHITHIOL)