Cwrs Gloywi Iaith
Ynglŷn â'r cwrs
CWRS TRI DIWRNOD - GLOYWI IAITH
Dyma gwrs ar gyfer dysgwyr rhugl a siaradwyr iaith gyntaf sydd eisiau cryfhau eu sgiliau, naill ai ar lafar neu’n ysgrifenedig. Cwrs wedi ei gynnal dros Zoom.
Ar y cwrs rhithiol hwn, bydd yr elfennau hyn yn cael eu trafod:
•gwallau cyffredin
•treigladau
•arddodiaid
•sillafu
•idiomau
•adnabod patrymau Saesneg yn yr iaith Gymraeg – a’u newid am batrymau Cymreig
Addas ar gyfer pobl sy’n ddysgwyr rhugl neu’n Gymry Cymraeg iaith gyntaf sydd eisiau canolbwyntio ar loywi eu hiaith lafar ac ysgrifenedig.
Mae cyrsiau Nant Gwrtheyrn yn gyrsiau atodol sydd â’u ffeiliau cwrs eu hunain. Mae’r cyrsiau hyn yn ategu’r cynnwys a ddysgir ar gyrsiau’r lefelau cenedlaethol a gynigir gan ddarparwyr prif ffrwd eraill, sy’n eu gwneud yn ddull effeithiol o gefnogi unrhyw weithgareddau dysgu eraill a wneir gan ddysgwyr o bob lefel. Yn ansicr ynghylch eich lefel neu eisiau gwybod mwy am addasrwydd ein cyrsiau i chi? Cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol: addysg@nantgwrtheyrn.org
(RHITHIOL)