Cwrs Canolradd Rhan 1 a 2
Ynglŷn â'r cwrs
CWRS WYTHNOS - CANOLRADD RHAN 1 a 2
Yn cynnwys gwersi a llety lluniaeth llawn. Dyma gwrs sy’n adeiladu ar lefel Sylfaen. Bydd cyfle i ddatblygu sgiliau sgwrsio, ysgrifennu, darllen a gwrando.
Ar y cwrs hwn, bydd yr elfennau hyn yn cael eu trafod:
•rhoi a derbyn gwybodaeth bersonol
•disgrifio, gan ddefnyddio ystod eang o ansoddeiriau
•mynegi barn
•deall a defnyddio’r geiriau: hwn, hon, hyn, hwnnw ayb
•dysgu’r amser goddefol
•llongyfarch, dymuno’n dda a chydymdeimlo â rhywun
•ehangu geirfa ac ymadroddion defnyddiol
Cymraeg fydd prif iaith gyfathrebu y cwrs hwn, er bod croeso i fyfyrwyr ddefnyddio Saesneg er mwyn deall agweddau mwyaf cymhleth yr iaith a’r ramadeg. Mae cyrsiau Nant Gwrtheyrn yn gyrsiau atodol sydd â’u ffeiliau cwrs eu hunain. Mae’r cyrsiau hyn yn ategu’r cynnwys a ddysgir ar gyrsiau’r lefelau cenedlaethol a gynigir gan ddarparwyr prif ffrwd eraill, sy’n eu gwneud yn ddull effeithiol o gefnogi unrhyw weithgareddau dysgu eraill a wneir gan ddysgwyr o bob lefel. Yn ansicr ynghylch eich lefel neu eisiau gwybod mwy am addasrwydd ein cyrsiau i chi? Cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol: addysg@nantgwrtheyrn.org
YN BYW YNG NGWYNEDD NEU MÔN? Cymerwch fantais o’n cynnig arbennig ar gyfer trigolion Gwynedd a Môn! Archebwch unrhyw gwrs 5 diwrnod (telerau dyddiol) am £140. Cysylltwch â ni i archebu.
Eisiau archebu nosweithiau llety ychwanegol? E-bostiwch: llety@nantgwrtheyrn.org ar ôl cofrestru.
(PRESWYL)