Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn
triangle vector pattern triangle vector pattern

Cwrs Sylfaen Rhan 1 a 2

Sylfaen 1 a 2 (Foundation 1 and 2)
Dosbarth rhithiol
16: Dosbarth rhithiol
Cyfeirnod y Cwrs: C2426
Hyd: 1 Wythnos
Cychwyn: 08/04/2024
Gorffen: 12/04/2024
Amser + Diwrnod: 10:00 - 16:00 Dydd Llun - Dydd Gwener
Tafodiaith: D/B
Ffrwd dysgu: Prif Ffrwd
Darparwr: Dysgu Cymraeg Nant Gwrtheyrn
£165.00
Llefydd ar ôl: 1
Dyddiad cau ar gyfer ymrestru: 05/04/2024

Ynglŷn â'r cwrs

CWRS WYTHNOS - SYLFAEN RHAN 1 a 2

Dyma gwrs sy’n adeiladu ar lefel Mynediad ac sy’n gofyn am rywfaint o brofiad o’r Gymraeg. Bydd y prif bwyslais ar siarad yr iaith, gyda chyfle i drafod pynciau pob dydd fel y teulu a ffrindiau, gwaith a diddordebau. Cwrs wedi ei gynnal dros Zoom.

Ar y cwrs rhithiol hwn, bydd yr elfennau hyn yn cael eu trafod:

•adolygu’r amser gorffennol cryno

•sôn am ddigwyddiadau olynol: cyn i mi…, ar ôl i mi…

•dysgu yr amser amherffaith: roeddwn i

•dyddiadau

•defnyddio arddodiaid gyda berfau

•datblygu rhagenwau, e.e. dw i wedi ei ddarllen o/e; dw i eisiau ei gweld hi

•ehangu geirfa ac ymadroddion defnyddiol

Er y bydd y cwrs hwn yn cael ei ddysgu drwy gyfrwng y Saesneg ar y dechrau, yn raddol bydd y Gymraeg yn cymryd ei lle fel y brif iaith gyfathrebu. Mae cyrsiau Nant Gwrtheyrn yn gyrsiau atodol sydd â’u ffeiliau cwrs eu hunain. Mae’r cyrsiau hyn yn ategu’r cynnwys a ddysgir ar gyrsiau’r lefelau cenedlaethol a gynigir gan ddarparwyr prif ffrwd eraill, sy’n eu gwneud yn ddull effeithiol o gefnogi unrhyw weithgareddau dysgu eraill a wneir gan ddysgwyr o bob lefel. Yn ansicr ynghylch eich lefel neu eisiau gwybod mwy am addasrwydd ein cyrsiau i chi? Cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol: addysg@nantgwrtheyrn.org

(RHITHIOL)