Cwrs Blasu
Ynglŷn â'r cwrs
CWRS BLASU TRI DIWRNOD
Yn cynnwys gwersi a llety lluniaeth llawn. Dewch i gael blas ar y Gymraeg mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar.
Ar y cwrs hwn, bydd yr elfennau hyn yn cael eu trafod:
• ynganu defnyddio enwau lleoedd ac arwyddion
• cyfarchion
• rhifo syml a lliwiau
• dyddiau’r wythnos
• siarad am y tywydd
• ymadroddion bob dydd
• berfau a gofyn/ateb cwestiynau syml
Addas ar gyfer pobl heb unrhyw wybodaeth flaenorol o’r Gymraeg. Cwrs delfrydol i baratoi ar gyfer mynd ar gwrs Mynediad 1.
Dysgir y cwrs hwn drwy gyfrwng y Saesneg.
Mae cyrsiau Nant Gwrtheyrn yn gyrsiau atodol sydd â’u ffeiliau cwrs eu hunain. Mae’r cyrsiau hyn yn ategu’r cynnwys a ddysgir ar gyrsiau’r lefelau cenedlaethol a gynigir gan ddarparwyr prif ffrwd eraill, sy’n eu gwneud yn ddull effeithiol o gefnogi unrhyw weithgareddau dysgu eraill a wneir gan ddysgwyr o bob lefel. Yn ansicr ynghylch eich lefel neu eisiau gwybod mwy am addasrwydd ein cyrsiau i chi? Cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol: addysg@nantgwrtheyrn.org
YN BYW YNG NGWYNEDD NEU MÔN? Cymerwch fantais o’n cynnig arbennig ar gyfer trigolion Gwynedd a Môn! Archebwch unrhyw gwrs 3 diwrnod (telerau dyddiol) am £85. Cysylltwch â ni i archebu.
Eisiau archebu nosweithiau llety ychwanegol? E-bostiwch: llety@nantgwrtheyrn.org ar ôl cofrestru.
(PRESWYL)