Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn
triangle vector pattern triangle vector pattern

Cwrs Mynediad Rhan 1

Mynediad 1 (Entry 1)
Preswyl
18: Preswyl
Cyfeirnod y Cwrs: C2433
Hyd: 1 Wythnos
Cychwyn: 03/06/2024
Gorffen: 07/06/2024
Amser + Diwrnod: 09:30 - 17:00 Dydd Llun - Dydd Gwener
Tafodiaith: D/B
Ffrwd dysgu: Prif Ffrwd
Darparwr: Dysgu Cymraeg Nant Gwrtheyrn
Lleoliad: Nant Gwrtheyrn, Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6NL
£545.00
Llefydd ar ôl: 0
Dyddiad cau ar gyfer ymrestru: 03/05/2024

Ynglŷn â'r cwrs

CWRS WYTHNOS - MYNEDIAD RHAN 1

Yn cynnwys gwersi a llety lluniaeth llawn. Dyma gwrs ar gyfer dechreuwyr, sy’n cyflwyno geirfa a phatrymau syml ac ymadroddion pob dydd. Mae’r pwyslais ar siarad yr iaith.

Ar y cwrs hwn, bydd yr elfennau hyn yn cael eu trafod:

• dysgu’r amser presennol

•berfau

•creu brawddegau yn yr amser presennol

•defnyddio rhifau, trafod arian

•dysgu dyddiau’r wythnos, misoedd y flwyddyn, tymhorau

•gofyn am bethau, e.e. mewn caffi, tafarn neu siop

•meddiant, e.e. mae gen i/’da fi …

•ehangu geirfa ac ymadroddion defnyddiol

Addas ar gyfer pobl sydd ag ychydig o gefndir yn y Gymraeg, ac sy’n gallu gwneud rhai pethau syml fel ynganu, rhifo, cyfarch ac sy’n gwybod rhai geiriau a brawddegau syml. Dysgir y cwrs hwn drwy gyfrwng y Saesneg.

Mae cyrsiau Nant Gwrtheyrn yn gyrsiau atodol sydd â’u ffeiliau cwrs eu hunain. Mae’r cyrsiau hyn yn ategu’r cynnwys a ddysgir ar gyrsiau’r lefelau cenedlaethol a gynigir gan ddarparwyr prif ffrwd eraill, sy’n eu gwneud yn ddull effeithiol o gefnogi unrhyw weithgareddau dysgu eraill a wneir gan ddysgwyr o bob lefel. Yn ansicr ynghylch eich lefel neu eisiau gwybod mwy am addasrwydd ein cyrsiau i chi? Cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol: addysg@nantgwrtheyrn.org

YN BYW YNG NGWYNEDD NEU MÔN? Cymerwch fantais o’n cynnig arbennig ar gyfer trigolion Gwynedd a Môn! Archebwch unrhyw gwrs 5 diwrnod (telerau dyddiol) am £140. Cysylltwch â ni i archebu.

Eisiau archebu nosweithiau llety ychwanegol? E-bostiwch: llety@nantgwrtheyrn.org ar ôl cofrestru.

(PRESWYL)