Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn
triangle vector pattern triangle vector pattern

Cwrs Sylfaen Rhan 1 a 2

Sylfaen 1 a 2 (Foundation 1 and 2)
Preswyl
18: Preswyl
Cyfeirnod y Cwrs: C2435
Hyd: 1 Wythnos
Cychwyn: 17/06/2024
Gorffen: 21/06/2024
Amser + Diwrnod: 09:30 - 17:00 Dydd Llun - Dydd Gwener
Tafodiaith: D/B
Ffrwd dysgu: Prif Ffrwd
Darparwr: Dysgu Cymraeg Nant Gwrtheyrn
Lleoliad: Nant Gwrtheyrn, Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6NL
£545.00
Llefydd ar ôl: 2
Dyddiad cau ar gyfer ymrestru: 17/05/2024

Ynglŷn â'r cwrs

CWRS WYTHNOS - SYLFAEN RHAN 1 a 2

Yn cynnwys gwersi a llety lluniaeth llawn. Dyma gwrs sy’n adeiladu ar lefel Mynediad ac sy’n gofyn am rywfaint o brofiad o’r Gymraeg. Bydd y prif bwyslais ar siarad yr iaith, gyda chyfle i drafod pynciau pob dydd fel y teulu a ffrindiau, gwaith a diddordebau.

Ar y cwrs hwn, bydd yr elfennau hyn yn cael eu trafod:

•adolygu’r amser gorffennol cryno

•sôn am ddigwyddiadau olynol: cyn i mi…, ar ôl i mi…

•dysgu yr amser amherffaith: roeddwn i

•dyddiadau

•defnyddio arddodiaid gyda berfau

•datblygu rhagenwau, e.e. dw i wedi ei ddarllen o/e; dw i eisiau ei gweld hi

•ehangu geirfa ac ymadroddion defnyddiol

Er y bydd y cwrs hwn yn cael ei ddysgu drwy gyfrwng y Saesneg ar y dechrau, yn raddol bydd y Gymraeg yn cymryd ei lle fel y brif iaith gyfathrebu.

Mae cyrsiau Nant Gwrtheyrn yn gyrsiau atodol sydd â’u ffeiliau cwrs eu hunain. Mae’r cyrsiau hyn yn ategu’r cynnwys a ddysgir ar gyrsiau’r lefelau cenedlaethol a gynigir gan ddarparwyr prif ffrwd eraill, sy’n eu gwneud yn ddull effeithiol o gefnogi unrhyw weithgareddau dysgu eraill a wneir gan ddysgwyr o bob lefel. Yn ansicr ynghylch eich lefel neu eisiau gwybod mwy am addasrwydd ein cyrsiau i chi? Cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol: addysg@nantgwrtheyrn.org

YN BYW YNG NGWYNEDD NEU MÔN? Cymerwch fantais o’n cynnig arbennig ar gyfer trigolion Gwynedd a Môn! Archebwch unrhyw gwrs 5 diwrnod (telerau dyddiol) am £140. Cysylltwch â ni i archebu.

Eisiau archebu nosweithiau llety ychwanegol? E-bostiwch: llety@nantgwrtheyrn.org ar ôl cofrestru.

(PRESWYL)