Cwrs Uwch 2 - Rhan i a ii
Ynglŷn â'r cwrs
CWRS WYTHNOS - UWCH II RHAN 1 a 2
Yn cynnwys gwersi a llety lluniaeth llawn. Dyma gyfle i ymarfer trafod pynciau a themâu o bob math. Byddwch hefyd yn datblygu eich sgiliau darllen, ysgrifennu a gwrando.
Cwrs sy’n rhoi cyfle i’r myfyrwyr astudio diwylliant y Cymry drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd pob cwrs yn wahanol er mwyn gofalu y gall myfyrwyr ei fynychu fwy nag unwaith, ond bydd pob cwrs yn cynnwys elfennau o’r canlynol:
- hanes
- llenyddiaeth
- atyniadau lleol
Mae pob cwrs Uwch 2 yn addas ar gyfer dysgwyr Cymraeg (lefel Uwch) neu Gymry Cymraeg sydd eisiau dysgu mwy am eu hanes a’u diwylliant Cymreig.
Mae cyrsiau Nant Gwrtheyrn yn gyrsiau atodol sydd â’u ffeiliau cwrs eu hunain. Mae’r cyrsiau hyn yn ategu’r cynnwys a ddysgir ar gyrsiau’r lefelau cenedlaethol a gynigir gan ddarparwyr prif ffrwd eraill, sy’n eu gwneud yn ddull effeithiol o gefnogi unrhyw weithgareddau dysgu eraill a wneir gan ddysgwyr o bob lefel.
Yn ansicr ynghylch eich lefel neu eisiau gwybod mwy am addasrwydd ein cyrsiau i chi? Cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol: addysg@nantgwrtheyrn.org
YN BYW YNG NGWYNEDD NEU MÔN? Cymerwch fantais o’n cynnig arbennig ar gyfer trigolion Gwynedd a Môn! Archebwch unrhyw gwrs 3 diwrnod (telerau dyddiol) am £85. Cysylltwch â ni i archebu.
Eisiau archebu nosweithiau llety ychwanegol? E-bostiwch: llety@nantgwrtheyrn.org ar ôl cofrestru.
(PRESWYL)