Cwrs Mynediad Rhan 1
Ynglŷn â'r cwrs
CWRS WYTHNOS - MYNEDIAD RHAN 1
Dyma gwrs ar gyfer dechreuwyr, sy’n cyflwyno geirfa a phatrymau syml ac ymadroddion pob dydd. Mae’r pwyslais ar siarad yr iaith. Cwrs wedi ei gynnal dros Zoom.
Ar y cwrs rhithiol hwn, bydd yr elfennau hyn yn cael eu trafod:
• dysgu’r amser presennol
•berfau
•creu brawddegau yn yr amser presennol
•defnyddio rhifau, trafod arian
•dysgu dyddiau’r wythnos, misoedd y flwyddyn, tymhorau
•gofyn am bethau, e.e. mewn caffi, tafarn neu siop
•meddiant, e.e. mae gen i/’da fi …
•ehangu geirfa ac ymadroddion defnyddiol
Addas ar gyfer pobl sydd ag ychydig o gefndir yn y Gymraeg, ac sy’n gallu gwneud rhai pethau syml fel ynganu, rhifo, cyfarch ac sy’n gwybod rhai geiriau a brawddegau syml. Dysgir y cwrs hwn drwy gyfrwng y Saesneg.
Mae cyrsiau Nant Gwrtheyrn yn gyrsiau atodol sydd â’u ffeiliau cwrs eu hunain. Mae’r cyrsiau hyn yn ategu’r cynnwys a ddysgir ar gyrsiau’r lefelau cenedlaethol a gynigir gan ddarparwyr prif ffrwd eraill, sy’n eu gwneud yn ddull effeithiol o gefnogi unrhyw weithgareddau dysgu eraill a wneir gan ddysgwyr o bob lefel. Yn ansicr ynghylch eich lefel neu eisiau gwybod mwy am addasrwydd ein cyrsiau i chi? Cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol: addysg@nantgwrtheyrn.org
(RHITHIOL)