Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn
triangle vector pattern triangle vector pattern

Cwrs Gloywi Iaith

Gloywi (Proficiency)
Preswyl
18: Preswyl
Cyfeirnod y Cwrs: C2440
Hyd: 1 Wythnos
Cychwyn: 15/07/2024
Gorffen: 17/07/2024
Amser + Diwrnod: 09:30 - 17:00 Dydd Llun - Dydd Mercher
Tafodiaith: D/B
Ffrwd dysgu: Prif Ffrwd
Darparwr: Dysgu Cymraeg Nant Gwrtheyrn
Lleoliad: Nant Gwrtheyrn, Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6NL
£325.00
Llefydd ar ôl: 6
Dyddiad cau ar gyfer ymrestru: 15/06/2024

Ynglŷn â'r cwrs

CWRS TRI DIWRNOD - GLOYWI IAITH

Yn cynnwys gwersi a llety lluniaeth llawn. Dyma gwrs ar gyfer dysgwyr rhugl a siaradwyr iaith gyntaf sydd eisiau cryfhau eu sgiliau, naill ai ar lafar neu’n ysgrifenedig.

Ar y cwrs hwn, bydd yr elfennau hyn yn cael eu trafod:

•gwallau cyffredin

•treigladau

•arddodiaid

•sillafu

•idiomau

•adnabod patrymau Saesneg yn yr iaith Gymraeg – a’u newid am batrymau Cymreig

Addas ar gyfer pobl sy’n ddysgwyr rhugl neu’n Gymry Cymraeg iaith gyntaf sydd eisiau canolbwyntio ar loywi eu hiaith lafar ac ysgrifenedig. Mae cyrsiau Nant Gwrtheyrn yn gyrsiau atodol sydd â’u ffeiliau cwrs eu hunain. Mae’r cyrsiau hyn yn ategu’r cynnwys a ddysgir ar gyrsiau’r lefelau cenedlaethol a gynigir gan ddarparwyr prif ffrwd eraill, sy’n eu gwneud yn ddull effeithiol o gefnogi unrhyw weithgareddau dysgu eraill a wneir gan ddysgwyr o bob lefel. Yn ansicr ynghylch eich lefel neu eisiau gwybod mwy am addasrwydd ein cyrsiau i chi? Cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol: addysg@nantgwrtheyrn.org

YN BYW YNG NGWYNEDD NEU MÔN? Cymerwch fantais o’n cynnig arbennig ar gyfer trigolion Gwynedd a Môn! Archebwch unrhyw gwrs 3 diwrnod (telerau dyddiol) am £85. Cysylltwch â ni i archebu.

Eisiau archebu nosweithiau llety ychwanegol? E-bostiwch: llety@nantgwrtheyrn.org ar ôl cofrestru.

(PRESWYL)