Cwrs Mynediad Rhan 1
Cyfeirnod:
C2123
Dosbarth Rhithiol Ar-lein
Mynediad
CWRS WYTHNOS - MYNEDIAD RHAN 1
Dyma gwrs dysgu-o-bell (dan ofal tiwtor ar-lein) ar gyfer dechreuwyr, sy’n cyflwyno geirfa a phatrymau syml ac ymadroddion pob dydd. Mae’r pwyslais ar siarad yr iaith.
- dysgu’r amser presennol
- berfau
- creu brawddegau yn yr amser presennol
- defnyddio rhifau, trafod arian
- dysgu dyddiau’r wythnos, misoedd y flwyddyn, tymhorau
- gofyn am bethau, e.e. mewn caffi, tafarn neu siop
- meddiant, e.e. mae gen i/’da fi …
- ehangu geirfa ac ymadroddion defnyddiol
Addas ar gyfer pobl sydd ag ychydig o gefndir yn y Gymraeg, ac sy’n gallu gwneud rhai pethau syml fel ynganu, rhifo, cyfarch ac sy’n gwybod rhai geiriau a brawddegau syml.
Bydd pawb sy’n cofrestru ar gyfer y cwrs hwn hefyd yn derbyn sesiwn ‘dal i fyny’ ar-lein gyda thiwtor.
Dysgir y cwrs hwn drwy gyfrwng y Saesneg.