Cwrs Canolradd Rhan 1 a 2
CWRS WYTHNOS - CANOLRADD RHAN 1 a 2
Yn cynnwys gwersi a llety lluniaeth llawn.
Dyma gwrs sy’n adeiladu ar lefel Sylfaen. Bydd cyfle i ddatblygu sgiliau sgwrsio, ysgrifennu, darllen a gwrando. Byddwch yn cwblhau dwy ran y lefel Sylfaen ar y cwrs hwn.
•rhoi a derbyn gwybodaeth bersonol
•disgrifio, gan ddefnyddio ystod eang o ansoddeiriau
•mynegi barn
•deall a defnyddio’r geiriau: hwn, hon, hyn, hwnnw ayb
•dysgu’r amser goddefol
•llongyfarch, dymuno’n dda a chydymdeimlo â rhywun
•ehangu geirfa ac ymadroddion defnyddiol
•sgwrsio gyda thrigolion lleol
Cymraeg fydd prif iaith gyfathrebu y cwrs hwn, er bod croeso i fyfyrwyr ddefnyddio Saesneg er mwyn deall agweddau mwyaf cymhleth yr iaith a’r ramadeg.
YN BYW YNG NGWYNEDD NEU MÔN?
Cymerwch fantais o’n cynnig arbennig ar gyfer trigolion Gwynedd a Môn! Archebwch unrhyw gwrs 5 niwrnod (telerau dyddiol) am £125. Cysylltwch â ni i archebu.