Cwrs Sylfaen Rhan 1 a 2
CWRS WYTHNOS - SYLFAEN RHAN 1 a 2
Yn cynnwys gwersi a llety lluniaeth llawn.
Dyma gwrs sy’n adeiladu ar lefel Mynediad ac sy’n gofyn am rywfaint o brofiad o’r Gymraeg. Bydd y prif bwyslais ar siarad yr iaith, gyda chyfle i drafod pynciau pob dydd fel y teulu a ffrindiau, gwaith a diddordebau.
Byddwch yn cwblhau dwy ran y lefel Sylfaen ar y cwrs hwn.
•adolygu’r amser gorffennol cryno
•sôn am ddigwyddiadau olynol: cyn i mi…, ar ôl i mi…
•dysgu yr amser amherffaith: roeddwn i
•dyddiadau
•defnyddio arddodiaid gyda berfau
•datblygu rhagenwau, e.e. dw i wedi ei ddarllen o/e; dw i eisiau ei gweld hi
•ehangu geirfa ac ymadroddion defnyddiol
•sgwrsio gyda thrigolion lleol
Er y bydd y cwrs hwn yn cael ei ddysgu drwy gyfrwng y Saesneg ar y dechrau, yn raddol bydd y Gymraeg yn cymryd ei lle fel y brif iaith gyfathrebu.
YN BYW YNG NGWYNEDD NEU MÔN?
Cymerwch fantais o’n cynnig arbennig ar gyfer trigolion Gwynedd a Môn! Archebwch unrhyw gwrs 5 niwrnod (telerau dyddiol) am £125. Cysylltwch â ni i archebu.