Cwrs Mynediad Rhan 1
CWRS WYTHNOS - MYNEDIAD RHAN 1
Yn cynnwys gwersi a llety lluniaeth llawn.
Dyma gwrs ar gyfer dechreuwyr, sy’n cyflwyno geirfa a phatrymau syml ac ymadroddion pob dydd. Mae’r pwyslais ar siarad yr iaith.
• dysgu’r amser presennol
•berfau
•creu brawddegau yn yr amser presennol
•defnyddio rhifau, trafod arian
•dysgu dyddiau’r wythnos, misoedd y flwyddyn, tymhorau
•gofyn am bethau, e.e. mewn caffi, tafarn neu siop
•meddiant, e.e. mae gen i/’da fi …
•ehangu geirfa ac ymadroddion defnyddiol
•trip siopa i Bwllheli
Addas ar gyfer pobl sydd ag ychydig o gefndir yn y Gymraeg, ac sy’n gallu gwneud rhai pethau syml fel ynganu, rhifo, cyfarch ac sy’n gwybod rhai geiriau a brawddegau syml.
Dysgir y cwrs hwn drwy gyfrwng y Saesneg.
YN BYW YNG NGWYNEDD NEU MÔN?
Cymerwch fantais o’n cynnig arbennig ar gyfer trigolion Gwynedd a Môn! Archebwch unrhyw gwrs 5 niwrnod (telerau dyddiol) am £125. Cysylltwch â ni i archebu.