Cwrs Gloywi Iaith
CWRS TRI DIWRNOD - GLOYWI IAITH
Yn cynnwys gwersi a llety lluniaeth llawn.
Dyma gwrs ar gyfer dysgwyr rhugl a siaradwyr iaith gyntaf sydd eisiau cryfhau eu sgiliau, naill ai ar lafar neu’n ysgrifenedig.
Ar y cwrs hwn byddwn yn anelu at astudio’r canlynol:
•gwallau cyffredin
•treigladau
•arddodiaid
•sillafu
•idiomau
•adnabod patrymau Saesneg yn yr iaith Gymraeg – a’u newid am batrymau Cymreig
Addas ar gyfer pobl sy’n ddysgwyr rhugl neu’n Gymry Cymraeg iaith gyntaf sydd eisiau canolbwyntio ar loywi eu hiaith lafar ac ysgrifenedig.
YN BYW YNG NGWYNEDD NEU MÔN?
Cymerwch fantais o’n cynnig arbennig ar gyfer trigolion Gwynedd a Môn! Archebwch unrhyw gwrs 3 diwrnod (telerau dyddiol) am £75. Cysylltwch â ni i archebu.