Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn
1 Wythnos
Cychwyn: 28/06/2021
Gorffen: 02/07/2021
Dydd Llun - Dydd Gwener
09:00 - 17:00

Cwrs Uwch ii - Rhan 1 a 2

Cyfeirnod: C2140 Preswyl
Uwch

Cwrs Uwch 2 efo Bethan Gwanas

BETHAN GWANAS

Awdures 37 o lyfrau i blant ac oedolion (a chyfres Bywyd Blodwen Jones ar gyfer dysgwyr), a thiwtor Cymraeg ac ysgrifennu creadigol. Enillodd wobr Tir na nOg am ei llyfrau i’r arddegau gyda Llinyn Trôns a Sgôr, a hi oedd enillydd cyntaf Gwobr Goffa T Llew Jones am nofel i blant gyda Gwylliaid. Roedd Hi yw Fy Ffrind ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2005. Wedi ysgrifennu nifer o ddramau llwyfan, teledu a radio hefyd ac mae’n ysgrifennu colofn i’r Herald Gymraeg yn y Daily Post ers dros 19 mlynedd. Mae’n byw ger Dolgellau ym Meirionnydd.

 

CWRS WYTHNOS - UWCH II RHAN 1 a 2 Yn cynnwys gwersi a llety lluniaeth llawn. Dyma gyfle i ymarfer trafod pynciau a themâu o bob math. Byddwch hefyd yn datblygu eich sgiliau darllen, ysgrifennu a gwrando. Cwrs sy’n rhoi cyfle i’r myfyrwyr astudio diwylliant y Cymry drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd pob cwrs yn wahanol er mwyn gofalu y gall myfyrwyr ei fynychu fwy nag unwaith, ond bydd pob cwrs yn cynnwys elfennau o’r canlynol: •hanes •llenyddiaeth •atyniadau lleol Mae pob cwrs Uwch 2 yn addas ar gyfer dysgwyr Cymraeg (lefel Uwch) neu Gymry Cymraeg sydd eisiau dysgu mwy am eu hanes a’u diwylliant Cymreig.