Cwrs Blasu
CWRS BLASU TRI DIWRNOD
Yn cynnwys gwersi a llety lluniaeth llawn.
Dewch i gael blas ar y Gymraeg mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar.
• ynganu defnyddio enwau lleoedd ac arwyddion
• cyfarchion
• rhifo syml a lliwiau
• dyddiau’r wythnos
• siarad am y tywydd
• ymadroddion bob dydd
• berfau a gofyn/ateb cwestiynau syml
Addas ar gyfer pobl heb unrhyw wybodaeth flaenorol o’r Gymraeg. Cwrs delfrydol i baratoi ar gyfer mynd ar gwrs Mynediad 1.
Dysgir y cwrs hwn drwy gyfrwng y Saesneg.
YN BYW YNG NGWYNEDD NEU MÔN?
Cymerwch fantais o’n cynnig arbennig ar gyfer trigolion Gwynedd a Môn! Archebwch unrhyw gwrs 3 diwrnod (telerau dyddiol) am £75. Cysylltwch â ni i archebu.