Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cyflwyno Siarad

Cyflwyno Siarad

Cynllun Siarad

Dach chi’n siarad Cymraeg? Dach chi’n awyddus i helpu pobol sy’n dysgu Cymraeg?

Mae Siarad yn gynllun i helpu dysgwyr sy’n gallu cynnal sgwrs ac eisiau ymarfer. Dan ni’n chwilio am siaradwyr sy’n fodlon rhoi 10 awr o’u hamser (dros flwyddyn) i’w helpu nhw feithrin hyder a defnyddio mwy o Gymraeg.

Mae pob gwirfoddolwr dros 18 oed, ac mae'r parau yn cwrdd mewn llefydd cyhoeddus neu ar-lein. CHI sy’n dewis lle a phryd dach chi’n cyfarfod. Dyma ffordd ymarferol, hwylus, i helpu pobol sy’n dysgu Cymraeg ac yn awyddus i ddod yn rhugl.

Dan ni'n cynnal dwy sesiwn rithiol i gyflwyno'r cynllun.  Cofrestrwch isod ar gyfer y digwyddiad yma (y dyddiad cau yw 12pm ar ddydd Mercher Hydref 20):

Dan ni'n edrych ymlaen at eich gweld chi!

Cliciwch ar y botwm isod i weld ein hysbys / Click the button below to view our privacy statement