Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Mwynhau digwyddiadau Cymraeg

Digwyddiadau'r Ganolfan

Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cynnal sawl digwyddiad cenedlaethol bob blwyddyn.  Dyma rai o'r digwyddiadau gwnaethon ni gynnal yn rhithiol yn 2021.

Fforwm Busnes

Cafodd y digwyddiad Fforwm Busnes i Ddysgwyr ei gynnal yn rhithiol yng nghwmni David Thomas, Jin Talog a Daniela Schlick, Helo Blod. Roedd yn ddiddorol clywed am gefndir y busnesau a sut maen nhw’n defnyddio’r Gymraeg wrth ddarparu eu gwasanaethau.  

Diolch yn fawr iawn i’r siaradwyr ac i bawb a ddaeth i’r digwyddiad.

Fforwm busnes

Ffair Nadolig

Cawson ni gyfle i glywed am gynnyrch o bob cwr o Gymru, gan gynnwys jin, caws, crochenwaith, gemwaith a bwyd a diod Cymreig, yn ein Ffair Nadolig rithiol.

Diolch yn fawr iawn i’r siaradwyr ac i bawb a ddaeth i’r noson.

 

Ffair Nadolig Rithiol

Holi Aled Roberts - Mae Gen i Hawl

Bwriad diwrnod ‘Mae Gen i Hawl’ ydy codi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd sy ar gael i ddefnyddio’r Gymraeg, wrth ymwneud â’r gwasanaethau cyhoeddus. Gallwch ddarllen mwy o wybodaeth yma.

Cawson ni noson dda yn y sesiwn gyda dysgwyr yn holi'r diweddar Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg ar Ddiwrnod Hawliau’r Gymraeg ar 7 Rhagfyr 2021. Diolch yn fawr i bawb am gymryd rhan ac am yr holl gwestiynau gwych.

Mae Gen i Hawl

Sesiwn goginio gyda Rhys ap Trefor

Diolch yn fawr iawn i Rhys ap Trefor am gynnal sesiwn goginio a dangos i ni sut i bobi cacen sinsir Nadoligaidd di-glwten a figan. Roedd hi’n noson hyfryd ac roedd y gacen yn edrych yn flasus iawn!

Diolch yn fawr i bawb am gymryd rhan.

Sesiwn goginio

’Dolig Dysgwyr

Cawson ni noson hwyliog gyda chriw gwych o ddysgwyr Cymraeg yn ein noson ’Dolig Dysgwyr ar y cyd â Chymdeithas Eisteddfodau Cymru.

Diolch i bawb am ymuno yn yr hwyl!

Dolig Dysgwyr

Whodunnit y Nadolig

Diolch yn fawr i bawb am gymryd rhan yn Whodunnit y Nadolig. Cawson ni noson wych yn defnyddio ein sgiliau ditectif i geisio datrys y cliwiau. Diolch i’r criw am eu perfformiadau arbennig.

Whodunnit y Nadolig
Noson Whodunnit

Gallwch fwynhau dala lan ar y digwyddiadau yma hefyd. 

Ar Lafar

Cafodd yr ŵyl i ddysgwyr, Ar Lafar, ei chynnal ar-lein yn 2021, ar dudalen Facebook y Ganolfan.

Rhestr chwarae fideos Ar Lafar - cliciwch am deithiau rhithiol yng Nghastell y Waun a Chastell Erddig; cael blas ar fywyd yn ‘Fron Haul’, tai’r chwarelwyr yn yr Amgueddfa Lechi; a chyfle i wneud crefftau a choginio.

Diolch i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Amgueddfa Cymru, a'r Llyfrgell Genedlaethol Cymru am fod yn rhan o'r ŵyl

Amdani

Mae Amdani – Gŵyl Ddarllen Dysgu Cymraeg yn dathlu’r gyfres o lyfrau i ddysgwyr, 'Amdani', sy’n cynnwys teitlau amrywiol, o hunan-gofiannau a nofelau serch i lyfrau llawn hiwmor a straeon byrion.

Gallwch fwynhau gwylio digwyddiadau 2021 a 2022 eto.

 

Gigs Dysgu Cymraeg 

Eisteddwch yn ôl i fwynhau ein gigs diweddar gyda'r cerddorion, Dafydd Iwan a Gwyneth Glyn. 

 

Digwyddiadau sy'n lleol i chi 

Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn gweithio gydag 11 o ddarparwyr cyrsiau ledled Cymru. Cliciwch ar y dolenni isod i ddod o hyd i weithgareddau Dysgu Cymraeg yn eich ardal chi.

Mae Dysgu Cymraeg Caerdydd yn darparu cyrsiau yn y brifddinas.
Mae Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe yn darparu cyrsiau yn Abertawe, Port Talbot a Chastell Nedd.
Mae Dysgu Cymraeg Y Fro yn darparu cyrsiau ym Mro Morgannwg.
Mae Dysgu Cymraeg Morgannwg yn darparu cyrsiau yn Merthyr Tydfil, Rhondda Cynon Taf a Phen-y-Bont ar Ogwr.
Mae Dysgu Cymraeg Gwent yn darparu cyrsiau yng Nghaerffili, Torfaen, Blaenau Gwent, Casnewydd a Sir Fynwy.
Mae Dysgu Cymraeg Sir Benfro yn darparu cyrsiau yn Sir Benfro.
Mae Dysgu Cymraeg Sir Gâr yn darparu cyrsiau yn Sir Gaerfyrddin.
Mae Dysgu Cymraeg Ceredigion - Powys - Sir Gâr yn darparu cyrsiau yn y canolbarth a Sir Gaerfyrddin.
Mae Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin yn darparu cyrsiau yng Ngwynedd, Môn a Chonwy.
Mae Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain yn darparu cyrsiau yn Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Wrecsam.
Mae Dysgu Cymraeg Nant Gwrtheyrn yn darparu cyrsiau preswyl yn 'y Nant', canolfan arbennig ym Mhen Llŷn.