Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Dysgwyr Duolingo

Croeso! 

Dysgu Cymraeg ar Duolingo ac eisiau gwybod mwy?  Croeso!  ʼDyn ni’n hapus bod diddordeb gyda chi a ʼdyn ni eisiau bod yn rhan o’ch taith iaith.

Ers Hydref 2021, mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi gweithio gyda Duolingo ar y cwrs Cymraeg.  Gwnaeth y Ganolfan gymryd yr awenau oddi wrth griw o wirfoddolwyr brwdfrydig, oedd wedi cynnal y cwrs ers iddo gael ei lansio ym mis Ionawr 2016.

Roedd y datblygiad yn rhan o fenter ehangach gan Duolingo i symud o fodel sy’n seiliedig ar wirfoddolwyr i gynnal rhai cyrsiau yn fewnol a datblygu eraill mewn partneriaeth â chyrff allanol. 

Datblygiadau i ap Duolingo

Mae rhai newidiadau wedi bod i'r ap - gallwch ddarllen amdanyn nhw yma.

Nodiadau gramadegol

Defnyddiwch y nodiadau defnyddiol yma.

duolingo

Amdanom ni

Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol sy'n gyfrifol am bob agwedd ar y sector Dysgu Cymraeg – o’r cwricwlwm a datblygu cyrsiau i e-ddysgu a marchnata. Mae cyrsiau Cymraeg ar gael i bawb ac mae digon o ddewis, ble bynnag dych chi’n byw. 

Cyrsiau Cymraeg

Chwilio am gwrs Cymraeg?  Edrychwch ar ein Chwilotwr Cyrsiau i’ch helpu chi i chwilio am gwrs addas.  Mae cyrsiau’n cael eu cynnig mewn dosbarthiadau rhithiol a rhai wyneb-yn-wyneb, yn ystod y dydd a gyda’r nos.

Eisiau gwybod pa lefel dysgu?  Mae dewis o gyrsiau ar gael, ar wahanol lefelau dysgu, o ddechreuwyr i ddysgwyr profiadol. Mae rhagor o wybodaeth am y lefelau dysgu ar gael yma.

Dod o hyd i gwrs

Dod o hyd i’ch darparwr lleol

ʼDyn ni’n gweithio gyda 11 o ddarparwyr cyrsiau ledled Cymru.  Ein darparwyr sy’n cynnal cyrsiau Cymraeg a gweithgareddau dysgu anffurfiol ar ein rhan. Cliciwch yma i weld pa ddarparwr lleol sy yn eich ardal chi.

Cyrsiau blasu ar-lein ac adnoddau digidol

Mae croeso i chi ddilyn y cyrsiau blasu ar-lein yma. Mae’r cyrsiau’n cyflwyno geirfa ac ymadroddion pob dydd ac maen nhw ar gael i bawb, yn rhad ac am ddim.

Gallwch ddefnyddio’r adnoddau digidol rhad ac am ddim yma hefyd. Mae’r adnoddau yn cyd-fynd â gwerslyfrau lefel Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch 1, 2 a 3 y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae rhagor o wybodaeth am werslyfrau ar gael yma.

Mwynhau defnyddio eich Cymraeg

Mae sawl ffordd y gallwch chi fwynhau eich Cymraeg.

Ewch i’n tudalen ‘Mwynhau defnyddio eich Cymraeg’ am gyfleoedd a gweithgareddau i fwynhau’r Gymraeg – o raglenni teledu a sianeli radio, i bodlediadau, llyfrau, cerddoriaeth, theatrau, gweithgareddau cymdeithasol a mwy.

Eisiau gwybod mwy am yr iaith Gymraeg?  Darllenwch ein llinell amser neu beth am wylio’r fideo yma.

Nant Gwrtheyrn
trafod
llangrannog
dysgwyr

Cadw mewn cysylltiad

ʼDyn ni yma i’ch helpu a’ch cefnogi bob cam o’r ffordd. Os oes unrhyw gwestiwn gyda chi, mae croeso i chi e-bostio ni swyddfa@dysgucymraeg.cymru.

ʼDyn ni’n edrych ymlaen yn fawr i’ch croesawu. Pob lwc gyda’r dysgu!