Dweud eich Dweud 2020
Diolch yn fawr am lenwi'r holiadur. Dyn/dan ni’n gwerthfawrogi eich amser a'ch sylwadau.
Os hoffech chi fwy o wybodaeth, cysylltwch â’ch darparwr lleol.
Cystadleuaeth Holiadur Dweud eich Dweud 2020
Anfonwch ebost gyda’r gair NANT at mair.lenny.turner@dysgucymraeg.cymru am y cyfle i ennill cwrs am ddim yn Nant Gwrtheyrn.
Telerau ac amodau'r gystadleuaeth:
- Bydd enwau'r bobl sy'n dymuno cymryd rhan yn cael eu cynnwys mewn cystadleuaeth i ennill cwrs Dysgu Cymraeg wythnos o hyd (dydd Llun i ddydd Gwener) yng nghanolfan Nant Gwrtheyrn, Pen Llŷn, gogledd orllewin Cymru.
- Yr enillydd fydd yr enw cyntaf a dynnir ar hap ar ôl i'r holiadur gau (ar 23 Mawrth).
- Gall yr enillydd ddewis cwrs Cymraeg ar y lefel sy’n addas iddyn nhw: Mynediad; Sylfaen; Canolradd; neu Uwch.
- Gall yr enillydd ddilyn y cwrs unrhyw bryd yn ystod 2020.
- Mae'r wobr yn cynnwys llety bwrdd llawn, en-suite; nid yw costau teithio yn ôl ac ymlaen i Nant Gwrtheyrn o’ch cartref wedi'u cynnwys yn y wobr.
- Rhaid bod yn 18 oed neu’n hŷn i gystadlu am y wobr hon.
- Nid yw'n bosib trosglwyddo’r wobr o gwrs Dysgu Cymraeg wythnos o hyd yn Nant Gwrtheyrn, ac nid oes dewis arall o arian ar gael yn lle’r wobr.
Competition terms and conditions:
- The names of those wishing to take part will be entered into a competition to win a week’s Learn Welsh course at the Nant Gwrtheyrn heritage centre on the Llŷn Peninsular, North West Wales.
- The winner will be the first name drawn at random after the questionnaire closes (on 23 March).
- The winner may choose which level Welsh course he or she wishes to follow – Mynediad/Entry; Sylfaen/Foundation; Canolradd/Intermediate; Uwch/Advanced.
- The winner may follow the course anytime during 2020.
- The prize includes full-board, en-suite accommodation; travel costs to and from Nant Gwrtheyrn are not included in the prize.
- Entry to this competition is restricted to entrants of 18 years of age or over.
- The prize of a week’s Learn Welsh course at Nant Gwrtheyrn is not transferable and no cash alternative to the prize is available.