Eisteddfod T
Croeso i safle'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar faes rhithiol Eisteddfod T.
Mae'r Ganolfan yn cynnig cyrsiau Dysgu Cymraeg i oedolion, sy'n cael eu cynnal gan rwydwaith o ddarparwyr cyrsiau. 'Dych chi'n gallu dod o hyd i gwrs yma.
Dewch i fwynhau'r Gymraeg gyda ni...


Defnyddio'r Gymraeg
Oeddech chi'n gwybod bod gan y Ganolfan nifer o raglenni ac adnoddau i'ch helpu chi fwynhau siarad ac ymarfer y Gymraeg? Am fwy o syniadau, cliciwch yma.
Cynllun 'Siarad'
Mwynhau eich Cymraeg
Adnoddau Digidol
Cyrsiau Blasu

Dysgwr y Flwyddyn 2020
Enillodd Rosina Jones, neu Rosie, Fedal y Dysgwr yn Eisteddfod T 2020. Ar y pryd, roedd hi’n ddisgybl blwyddyn 13 yn Ysgol Uwchradd Caerdydd yn astudio Cymraeg, Hanes a Ffrangeg.
Ble mae Rosie nawr?

Gigs Dysgu Cymraeg
Camwch i mewn i'n pabell gigs rhithiol i fwynhau perfformiadau gan Gwyneth Glyn a Dafydd Iwan.
Syniadau gwrando, gwylio a darllen
Croeso i gornel stori ein safle. Beth am bori trwy gylchgronau a llyfrau, gwrando ar bodlediad Dysgu Cymraeg, neu wylio stori-fideo Amdani?
Blogs
Liz Learns Welsh
Ar hyn o bryd mae Liz Day yn astudio gyda Dysgu Cymraeg Caerdydd. Darllenwch am ei phrofiadau yn dysgu Cymraeg yn y blog hwn.
Sôn am Lyfra'
Mae Sôn am Lyfra' yn darparu adolygiadau dwyieithog o lyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc.
Bethan Gwanas yn mwydro am lyfrau
Mae'r awdur a'r tiwtor Cymraeg, Bethan Gwanas, yn adolygu pob math o lyfrau ar ei gwefan. Dilynwch y ddolen i ddarllen mwy.
Llyfrau
Cyfres Amdani
Cliciwch uchod i weld holl lyfrau Amdani, y gyfres boblogaidd i ddysgwyr.
Straeon-fideo
Mae gan yr Eisteddfod Genedlaethol restr chwarae ar YouTube o straeon-fideo cyfres Amdani.
Podlediadau
Dydd Miwsig Cymru: Rhys Meirion
Rhiannon Norfolk, dysgwr a thiwtor gyda Dysgu Cymraeg Y Fro, sy’n holi’r canwr a’r cyflwynydd Rhys Meirion.
Gŵyl Ddarllen Dysgu Cymraeg: Manon Steffan Ros
Y ddysgwraig Gosia Rutecka sy’n holi’r awdures Manon Steffan Ros am ei gwaith.
*Ar gael ar blatfformau ffrydio poblogaidd.
Diolch am ymweld â safle'r Ganolfan. Gallwch ddod o hyd i'r holl adnoddau a chyrsiau Dysgu Cymraeg ar ein gwefan. Beth am greu cyfrif gyda ni neu ein dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol? 'Dyn ni hefyd ar instagram - dewch i ddweud helo. #dysgucymraeg #learnwelsh