Gŵyl Ddarllen Amdani 2022
Croeso i dudalen Gŵyl Ddarllen Amdani 2022, a gafodd ei chynnal yn rhithiol rhwng 28 Chwefror a 4 Mawrth 2022. Cafodd llawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau cyffrous eu trefnu a dych chi’n gallu mwynhau pigion yr ŵyl ar y dudalen yma. Diolch yn fawr i bawb am ymuno gyda ni.
Mae’r ŵyl yn dathlu’r gyfres o lyfrau i ddysgwyr, 'Amdani', sy’n cynnwys teitlau gwahanol, o hunan-gofiannau a nofelau serch i lyfrau llawn hiwmor a straeon byrion. Mae’r ŵyl yn tynnu sylw at y cyfleoedd di-ri i fwynhau darllen yn Gymraeg.
Dyma’r ail flwyddyn i ni gynnal yr ŵyl. Gallwch fwynhau digwyddiadau Gŵyl Ddarllen Amdani 2021 yma.
Diolch i'n partneriaid – Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Cyngor Llyfrau Cymru, Golwg 360, BBC Radio Cymru/Cymru Fyw.
Gig Gŵyl Dewi
Dych chi'n gallu gwrando ar recordiad o berfformiad arbennig y cerddor a’r cyfansoddwr, Robat Arwyn ar ein tudalen Facebook ac ar ein sianel YouTube. Mwynhewch!
Clwb darllen cenedlaethol a ioga cadair
Dyma recordiad o'r clwb darllen cenedlaethol a'r ioga cadair. Dych chi'n gallu gwylio'r ddau recordiad ar ein sianel YouTube hefyd.
Podlediad
Gwrandewch ar Jo Heyde yn holi’r awdur, Caryl Lewis yma.
Straeon newydd i ddysgwyr
Cliciwch ar y teitlau isod i ddarllen straeon newydd sbon i ddysgwyr gan Pegi Talfryn a Lleucu Roberts.
‘Y Llyfr’ gan Pegi Talfryn – fersiwn y de a fersiwn y gogledd ar gael
‘Y Llyfr’ gan Lleucu Roberts
Cystadleuaeth ysgrifennu stori Amdani
Diolch yn fawr i bawb wnaeth gymryd rhan yn ein cystadleuaeth ysgrifennu stori.
Cafwyd cefnogaeth wych i’r gystadleuaeth ac roedd y safon yn ôl y beirniaid, Lleucu Roberts a Pegi Talfryn yn arbennig o uchel.
’Dyn ni wedi rhoi’r straeon buddugol yma felly ewch ati i’w darllen a mwynhewch!

Mwynhau darllen llyfrau Cymraeg gyda’ch plant – canllaw i ddysgwyr Cymraeg
Mae’r canllaw yma yn rhestru llyfrau Cymraeg dych chi’n gallu eu darllen gyda’ch plant. Cliciwch yma i ddarllen y canllaw.
Beth i'w ddarllen? Cliciwch isod am syniadau...
Siopau Llyfrau Cymraeg
Defnyddiwch y map yma i ddod o hyd i siop lyfrau Cymraeg yn eich ardal chi.