Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Y Gweithlu Addysg

Croeso!

Os dych chi’n gweithio yn y sector addysg yng Nghymru, mae dewis gwych o gyrsiau Dysgu Cymraeg i chi.

Gallwch ddilyn y Cwrs Sabothol cenedlaethol gyda Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol Bangor neu Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant neu gyrsiau hunan-astudio ar-lein newydd – wedi’u teilwra ar gyfer y gweithlu addysg ac ar gael ar bum lefel dysgu.

Mae’r cyrsiau yma wedi’u hariannu’n llawn, ac o fis Medi 2022 ymlaen, byddwch hefyd yn gallu dilyn cyrsiau cymunedol y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yn rhad ac am ddim.

Mae cyrsiau, sy’n cael eu cynnal mewn dosbarthiadau rhithiol a wyneb-yn-wyneb, hefyd ar gael ar y pum lefel dysgu.  Felly os dych chi’n siarad bach o Gymraeg yn barod bydd cwrs addas i chi.

Cliciwch yma i ymweld â’r porth gweithlu addysg newydd, sy’n cynnwys gwybodaeth am bob math o gyfleoedd dysgu.

Yn y cyfamser, gallwch ddilyn ein cyrsiau blasu ar-lein rhad ac am ddim, sy hefyd wedi’u teilwra ar gyfer y gweithlu addysg.

Mae sawl ffordd arall i fwynhau’r Gymraeg, a chofiwch ein dilyn ni ar Twitter a Facebook.

dysgu
dysgu
dysgu