Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Gŵyl Ddarllen Amdani 2023

Croeso i dudalen Gŵyl Ddarllen Amdani 2023, a gafodd ei chynnal yn rhithiol rhwng 28 Chwefror a 4 Mawrth 2023. Cafodd llawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau cyffrous eu trefnu a dych chi'n gallu mwynhau pigion yr ŵyl ar y dudalen yma. Diolch yn fawr i bawb am ymuno gyda ni

Mae’r ŵyl yn dathlu’r gyfres o lyfrau i ddysgwyr, 'Amdani', sy’n cynnwys teitlau gwahanol, o hunan-gofiannau a nofelau serch i lyfrau llawn hiwmor a straeon byrion. Mae’r ŵyl yn tynnu sylw at y cyfleoedd di-ri i fwynhau darllen yn Gymraeg.

Dyma’r drydedd flwyddyn i ni gynnal yr ŵyl. Gallwch fwynhau digwyddiadau Gŵyl Ddarllen Amdani 2022 yma a 2021 yma.

Diolch i'n partneriaid – Cyngor Llyfrau Cymru a Golwg 360.

Amdani

Beth i'w ddarllen? Cliciwch isod am syniadau...

Cystadleuaeth ysgrifennu stori Amdani

Diolch yn fawr i bawb wnaeth gymryd rhan yn ein cystadleuaeth ysgrifennu stori. Llongyfarchiadau mawr i’r tri ddaeth i’r brig.

Dych chi’n gallu darllen y straeon buddugol yma felly ewch ati i’w darllen a mwynhewch!

1af - Alba Barranco Garcia  

2il - Elinor Cotton

3ydd - Pablo Sanz Garcia

Cylchgrawn

’Dyn ni wedi cyhoeddi cylchgrawn i ddathlu bod cyfres lyfrau Amdani yn bum mlwydd oed. Yn y cylchgrawn mae cyfweliadau, stori fer a’r newyddion diweddaraf am gyfres Amdani. Cliciwch yma i ddarllen y cylchgrawn.  

Cylchgrawn Amdani

Mwynhau darllen gyda'ch plant - canllaw i ddysgwyr Cymraeg

Mae'r canllaw yma yn rhestru llyfrau Cymraeg dych chi'n gallu eu darllen gyda'ch plant. Cliciwch yma i ddarllen y canllaw

Canllaw i rieni

Cyfweliadau Amdani

Cafodd cyfres o erthyglau holi ac ateb eu cyhoeddi yn ystod yr ŵyl. Dych chi'n gallu darllen yr erthyglau drwy glicio ar y teils isod.

Siopau llyfrau Cymraeg

Defnyddiwch y map yma i ddod o hyd i siop lyfrau Cymraeg yn eich ardal chi.