Her yr Haf 2020
Mae haf 2020 yn wahanol ond mae digon o gyfleoedd i ddefnyddio a mwynhau eich Cymraeg. Dewiswch chwech o’r heriau isod. Nodwch y dyddiad y gwnaethoch chi’r her a brawddeg neu ddwy yn sôn am eich profiad. Cwblhewch eich ffurflen erbyn 21 Awst i gael cyfle i ennill cwrs am ddim ym mis Medi (os dych chi’n ennill a dych chi wedi talu am eich cwrs newydd yn barod, byddwn yn trefnu ad-daliad).
- Siarad â rhywun sy’n rhugl
- Siarad â dysgwr neu ddysgwyr eraill
- Darllen llyfr Cymraeg
- Darllen cylchgrawn Cymraeg (copi caled neu ar-lein)
- Gwrando ar Radio Cymru
- Edrych ar S4C
- Gadael neges Gymraeg ar Facebook neu Trydar
- Gwneud fideo
- Dysgu deg o eiriau newydd mewn wythnos
- Ymweld â’r Eisteddfod AmGen
- Dilyn rysáit Gymraeg
- Dysgu cân Gymraeg
- Dysgwch enwau Cymraeg 5 o adar yn eich gardd neu barc lleol