Noson Whodunnit
O na, mae rhywun wedi llofruddio’r tiwtor Gwenda Gramadeg!
Dewch i ddatrys y cliwiau a mwynhau noson rithiol, llawn hwyl.
Mae’r digwyddiad rhyngweithiol, rhad ac am ddim yma yn cael ei gynnal fel rhan o’r Eisteddfod AmGen.
Gallwch lawrlwytho geirfa ar gyfer y noson yma, a darllen stori fer sy’n rhoi cefndir y noson yng nghylchgrawn Hwyl yr Haf.
