Pa fath o gwrs?
Lefelau dysgu
Mae cyrsiau Cymraeg ar gael ar sawl lefel dysgu - o ddechreuwyr i ddysgwyr profiadol. Gwyliwch ein fideo i gael blas ar y lefelau - mae mwy o fanylion ar gael yma.
Mae'r mwyafrif o gyrsiau yn cael eu cynnal mewn dosbarthiadau rhithiol ar hyn o bryd.
Gallwch chwilio am gwrs fesul lefel:
Enw'r lefel | Disgrifiad | Dod o hyd i gwrs |
Mynediad |
Cyrsiau ar gyfer dechreuwyr; bydd cyfle i ddysgu siarad am bynciau pob dydd fel eich gwaith, y teulu, ffrindiau a diddordebau. | Cyrsiau Mynediad |
Sylfaen |
Mae'r lefel yma yn adeiladu ar lefel Mynediad ac yn dysgu holl batrymau sylfaenol y Gymraeg. | Cyrsiau Sylfaen |
Canolradd |
Yn addas ar gyfer pobl sy'n gyfarwydd gyda phrif batrymau'r Gymraeg. Mae mwy o ysgrifennu, darllen a gwrando ar y lefel yma. | Cyrsiau Canolradd |
Uwch |
Bydd cyfle i drafod pob math o bynciau a themâu ar y lefel yma. Y prif nod yw creu siaradwyr hyderus. |
Cyrsiau Uwch |
Hyfedredd |
Mae'r cyrsiau yma, sy'n addas ar gyfer dysgwyr rhugl a siaradwyr Cymraeg, yn cael eu teilwra ar gyfer anghenion y dosbarth. Gall y cyrsiau ganolbwyntio ar sgiliau llafar neu ysgrifenedig. | Cyrsiau Hyfedredd |
Dulliau dysgu
Dosbarth rhithiol
Dosbarth
Cyrsiau Hunan-Astudio
Cyrsiau Cyfunol
Cyrsiau Preswyl
Dysgu Cymdeithasol
Darparwyr cyrsiau
Mae cyrsiau Cymraeg yn cael eu cynnal gan 11 darparwr cyrsiau ledled Cymru ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Gallwch chwilio am gwrs fesul rhanbarth darparwr:
Darparwr cyrsiau |
Rhanbarth darparwr |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Cymraeg Gwaith

Mae cynllun Cymraeg Gwaith yn cefnogi datblygiad sgiliau Cymraeg at bwrpas gwaith. Beth am ddechrau trwy roi cynnig ar ein cyrsiau blasu ar-lein sy'n rhad ac am ddim yma?
Clwb Cwtsh

Dych chi wedi clywed am Clwb Cwtsh? Cyrsiau blasu Cymraeg rhad ac am ddim ar gyfer teuluoedd yw Clwb Cwtsh. Mae mwy o wybodaeth am sesiynau Clwb Cwtsh ar gael yma.
Cyrsiau Preswyl

Mae cyrsiau preswyl fel arfer ar gael yn Nant Gwrtheyrn, sef y ganolfan iaith a diwylliant ym Mhenrhyn Llŷn, ond ar hyn o bryd, cyrsiau mewn dosbarthiadau rhithiol sy'n cael eu cynnal.